English icon English
Pensils

Dyddiad cau cais ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn / ysgol gynradd

Reception / Primary School Application Deadline

Bydd angen i rieni plant a anwyd rhwng 01.09.2019 a 31.08.2020 yn Sir Benfro wneud cais am le mewn dosbarth derbyn / ysgol gynradd ar gyfer Medi 2024 erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2024.

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn hwyr, a gallai hyn effeithio ar p'un ar a yw'r plentyn yn cael lle yn yr ysgol a ffefrir ganddo/ganddi.

Mae'n bwysig nodi na fydd lle mewn ysgol yn cael ei ddyrannu oni dderbynnir cais ffurfiol.

Gellid dod o hyd i'r ffurflen gais ar-lein ar wefan Cyngor Sir Penfro o dan 'Gwneud cais am le mewn ysgol’. 

Nid oes angen ailymgeisio os ydych eisoes wedi cyflwyno ffurflen gais.

Cysylltwch â Derbyniadau Ysgol drwy e-bost ar admissions@pembrokeshire.gov.uk os hoffech wirio a oes cais eisoes wedi'i wneud – wrth wneud hynny, rhowch enw llawn eich plentyn, ei ddyddiad geni, a'r ysgol yr ydych wedi gwneud cais amdani.

Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod am y lleoedd sydd ar gael ar y dyddiad cynnig cyffredin, sef 16 Ebrill 2024.