Dyddiad cau enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023 yn agosáu
Nominations deadline nears for Sport Pembrokeshire 2023 awards
Ydych chi'n adnabod tîm neu unigolyn yn Sir Benfro a gafodd lwyddiant chwaraeon anhygoel y llynedd? Neu hyfforddwr neu wirfoddolwr ymroddedig mewn chwaraeon ar lawr gwlad sy'n haeddu cydnabyddiaeth?
Yna, cyflwynwch eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023!
Y dyddiad cau yw dydd Sul, 15 Hydref ac mae 13 o gategorïau.
"Rydym wedi derbyn llawer o enwebiadau gwych yn barod, ond byddem wrth ein bodd yn derbyn hyd yn oed mwy - felly cyflwynwch eich enwebiadau cyn y dyddiad cau, sef 15 Hydref," meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.
"Mae'r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu llwyddiant chwaraeon, a dangos eich gwerthfawrogiad o'r holl bobl weithgar mewn chwaraeon ar lawr gwlad."
Am y tro cyntaf eleni, gwahoddir aelodau'r cyhoedd i gyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobr Cyflawniad Oes.
Noddir Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro gan Valero, Pure West Radio, Fferm Folly a'r Western Telegraph.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar Fferm Folly ar ddydd Gwener, 24 Tachwedd 2023.
- I wneud enwebiad, cliciwch ar ffurflen enwebu Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023
Dyma gategorïau’r gwobrau:
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Cyflawniad Chwaraeon gan Fenyw
- Cyflawniad Chwaraeon gan Ddyn
- Cyflawniad Chwaraeon gan Fachgen (o dan 16 oed)
- Cyflawniad Chwaraeon gan Ferch (o dan 16 oed)
- Gwobr Chwaraeon Anabledd
- Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (o dan 16 oed)
- Arwr Anenwog
- Trefnydd Clwb y Flwyddyn
- Cyflawniad Tîm y Flwyddyn
- Cyflawniad Tîm Iau y Flwyddyn (o dan 16 oed)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Clwb y Flwyddyn
- Cyflawniad Oes