English icon English
Yn y dosbarth

Dyddiad cau lleoedd ysgolion uwchradd yn agosáu

Secondary school places deadline approaching

Gwahoddir rhieni/gwarcheidwaid disgyblion Blwyddyn 6 yn Sir Benfro i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2026 erbyn y dyddiad cau, sef 21 Rhagfyr 2025.

Bydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn rhai hwyr a all effeithio ar a fydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol o’i ddewis.

Nid oes mynediad awtomatig i ysgol uwchradd (ac eithrio ysgolion 3-16 – gweler isod), hyd yn oed os ydych yn byw yn y dalgylch a/neu os yw eich plentyn yn mynychu ysgol fwydo, rhaid gwneud cais.

Mae'n bwysig nodi na fydd lle mewn ysgol yn cael ei ddyrannu oni dderbynnir cais ffurfiol.

Nid oes angen i rieni disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Bro Preseli nac Ysgol Caer Elen wneud cais gan eu bod yn mynychu ysgolion 3 i 16 a thybir y byddant yn aros yn eu hysgolion presennol. Fodd bynnag, os yw rhieni am wneud cais am ysgol uwchradd wahanol dylent wneud cais erbyn y dyddiad cau a nodir uchod.

Mae’r ffurflen gais ar-lein i’w chael ar wefan Cyngor Sir Penfro: www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-a-dysgu o dan ‘Gwneud Cais am Le mewn Ysgol’. 

I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, edrychwch ar ein Gwybodaeth i Rieni

Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod am ddyraniad y lleoedd ar y dyddiad cynnig cyffredin, sef 2 Mawrth 2026.