English icon English
Gorsaf Bleidleisio Polling station Gorsaf Bleidleisio Polling station

Dyddiadau allweddol i bleidleiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod

Key dates for voters in upcoming General Election

Mae Etholiad Cyffredinol y DU wedi ei alw a bydd yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Mae nifer o ddyddiadau allweddol i bleidleiswyr er mwyn sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif.

Y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Rhaid gwneud hyn cyn hanner nos ddydd Mawrth, 18 Mehefin.

Gwiriwch eich cofrestriad ar-lein ac os oes angen i chi gofrestru, pum munud yn unig mae’n ei gymryd ar wefan y Llywodraeth (yn agor mewn ffenestr newydd).

Mae’n ofynnol bod prawf adnabod â llun arno gennych i bleidleisio’n bersonol, ond os nad oes gennych un o’r ffurfiau adnabod derbyniol, mae gennych tan ddydd Mercher, 26 Mehefin i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (yn agor mewn ffenestr newydd).

Mae’r dulliau adnabod sy’n dderbyniol yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru’r DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; a rhai tocynnau teithio rhatach, fel tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio dulliau adnabod sydd wedi dod i ben os yw’n dal i fod yn bosibl ei adnabod o’r llun.

Os byddai’n well gennych anfon pleidlais drwy’r post, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin ac os oes angen pleidlais drwy ddirprwy arnoch, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.

Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol: "Bydd y gymuned etholiadol nawr yn rhoi ei holl gynllunio ar waith, gan weithio i gefnogi pleidleiswyr a darparu gorsafoedd pleidleisio sy’n cael eu gweithredu’n dda. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am eu gwaith hanfodol yn cefnogi ein democratiaeth.  

"Mae’n bwysig bod pleidleiswyr yn gallu clywed gan amrywiaeth o leisiau dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn galw ar bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, gwirfoddolwyr ac ymgeiswyr i ymgymryd â’u rôl hanfodol yn gyfrifol ac yn dryloyw fel y gall pleidleiswyr ymddiried yn yr wybodaeth y maent yn ei gweld a’i chael."

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (yn agor mewn ffenestr newydd).