Dysgwyr Portfield yn creu hanes lleol gyda Gwobr Dug Caeredin
Portfield learners make local history with Duke of Edinburgh’s Award
Mae pedwar unigolyn ifanc rhyfeddol o Ysgol Portfield wedi creu hanes lleol ar ôl dod yn bobl cyntaf y sir sy’n defnyddio cadair olwyn i gwblhau gwobr aur clodfawr Gwobr Dug Caeredin yn llwyddiannus.
Mae’r grŵp o fyfyrwyr o’r ysgol yn Hwlffordd yn bobl sy’n defnyddio cadair olwyn a ffon a ffrâm gerdded.
Cwblhaodd y myfyrwyr, sydd ag amrywiaeth o anghenion symudedd ac yn cynnwys pobl ifanc sy’n defnyddio cadair olwyn, yn cerdded yn annibynnol neu gyda chymorth ffon gerdded, y wobr ar ôl taith anhygoel o bedair blynedd trwy lefelau efydd, arian ac aur rhaglen Gwobr Dug Caeredin.
Yn ddiweddar, cwblhaodd y grŵp eu halldaith gymhwyso ar gyfer y wobr aur yn Sir Gaerfyrddin, lle dangoson nhw eu bod nhw’n anhygoel o benderfynol, yn wydn ac yn gallu gweithio mewn tîm.
Ar gyfer yr alldaith, arhoson nhw mewn caban ym Mhentywyn, cyfleuster gwych a oedd yn darparu mynediad a chyfleusterau i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
Ar y diwrnod cyntaf, cwblhaodd y myfyrwyr daith gerdded 1.7 milltir o amgylch Parc Gwledig Llŷn Llech Owain, cyflawniad arwyddocaol a dechrau cadarnhaol i’r alldaith.
Ar yr ail ddiwrnod, ymwelodd y grŵp â’r Amgueddfa Cyflymder Tir ym Mhentywyn, lle dysgon nhw am yr ymdrechion enwog i dorri’r record cyflymder tir ar draeth Pentywyn cyn mynd i’r traeth i archwilio’r pyllau creigiog ac ogofâu, ymchwilio i broblem microplastigion a chwblhau taith gerdded hir ar hyd y glannau er gwaethaf gwyntoedd cryfion.
Daeth yr her fwyaf ar ddiwrnod tri, pan gyflawnodd y myfyrwyr eu pellter hiraf erioed, gan deithio 2.4 milltir anhygoel mewn un diwrnod ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Roedd cyrraedd y garreg filltir o ddwy filltir wedi bod yn nod hirdymor i’r grŵp ac yn cynrychioli blynyddoedd o waith caled, dyfalbarhad a phenderfyniad.
Daeth yr alldaith i ben mewn tywydd hyfryd, a phob cyfranogwr yn cwblhau eu gwobr aur yn llwyddiannus. Safle nesaf y daith - Palas Buckingham!
Dywedodd arweinydd Gwobr Dug Caeredin yn Ysgol Portfield, Claire Sommerville: "Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae’r bobl ifanc hyn wedi’i gyflawni. Dros bedair blynedd, maen nhw wedi dangos eu bod nhw’n benderfynol, yn wydn ac yn barod i herio eu hunain ar bob cam o’u taith i gyflawni Gwobr Dug Caeredin.
"Fel y grŵp cyntaf o bobl ifanc ag anableddau corfforol sylweddol yn Sir Benfro i ennill eu gwobr aur, maen nhw wedi gosod esiampl wych a dylen nhw fod yn hynod falch o’u llwyddiant."