Gwobrau sbotlau 2026 spotlight awards

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2026

Nominations open for the Pembrokeshire Spotlight Awards 2026

Rhannu:

Mae enwebiadau’n cael eu gwahodd nawr ar gyfer Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2026, digwyddiad blynyddol sy’n dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc ledled y sir. 

Mae'r gwobrau'n cydnabod pobl ifanc sydd wedi cyflawni pethau eithriadol, wedi goresgyn heriau, wedi dangos ymrwymiad rhagorol, neu wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau unigolion eraill a'u cymunedau. 

Gellir enwebu unigolion a grwpiau ar draws 11 categori gwobrwyo, a chroesewir enwebiadau gan unrhyw un, gan gynnwys hunan-enwebiadau. 

Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn gyfle i daflu goleuni ar gyfraniadau, doniau a chyflawniadau rhyfeddol pobl ifanc ledled Sir Benfro. 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 23 Tachwedd 2026. Enwebwch heddiw a rhoi'r cyfle i rywun dywynnu https://forms.cloud.microsoft/e/BYWVUY7T8i

Mae'r gwobrau'n cael eu cyflwyno trwy bartneriaeth rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Ieuenctid Sir Benfro a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro, ac mae’r digwyddiad unwaith eto wedi'i noddi'n hael gan BAM Nuttall ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. 

Mae trefnwyr yn annog trigolion, ysgolion, grwpiau ieuenctid, sefydliadau cymunedol, aelodau o'r teulu a ffrindiau i enwebu pobl ifanc teilwng a sicrhau bod eu cyflawniadau'n cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.