Enwebiadau yn agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023
Nominations open for the Sport Pembrokeshire Awards 2023
Bydd dathliad blynyddol Sir Benfro o chwaraeon yn cael ei gynnal unwaith eto yr hydref hwn yng Ngwobrau mawreddog Chwaraeon Sir Benfro 2023.
Mae enwebiadau ar gyfer yr 13 categori o wobrau yn agor heddiw (dydd Mercher, 13 Medi) ac yn cau ddydd Sul, 15 Hydref.
Mae'r categorïau'n cydnabod cyflawniadau chwaraeon unigolion a thimau ac ymroddiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr mewn chwaraeon cymunedol.
Ac am y tro cyntaf, bydd enwebiadau hefyd yn cael eu gwahodd ar gyfer gwobr arbennig Cyflawniad Oes.
"Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod, am y tro cyntaf, yn gofyn i aelodau'r cyhoedd gyflwyno enwebiad ar gyfer y wobr bwysig hon," meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.
Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae Roland Phillips (rygbi), Alice Watts (pêl-rwyd), Jacob Thomas (boccia) a Paula Craig (athletau).
Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett fod panel beirniadu Chwaraeon Sir Benfro yn edrych ymlaen at dderbyn llawer o enwebiadau ar draws yr 13 o gategorïau.
"Mae'r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu llwyddiant chwaraeon, a dangos eich gwerthfawrogiad o'r holl bobl weithgar mewn chwaraeon ar lawr gwlad," meddai. "Cyflwynwch eich enwebiadau cyn gynted â phosibl."
"Hoffwn ddiolch hefyd i'n noddwyr unwaith eto eleni - Valero, Pure West Radio, Folly Farm a'r Western Telegraph. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai modd cynnal y digwyddiad hwn."
Cynhelir y seremoni wobrwyo gala yn Folly Farm ddydd Gwener, 24 Tachwedd 2023.
- I wneud enwebiad, cliciwch ar y Ffurflen enwebu Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023
Dyma gategorïau’r gwobrau:
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Cyflawniad Chwaraeon gan Fenyw
- Cyflawniad Chwaraeon gan Ddyn
- Cyflawniad Chwaraeon gan Fachgen (o dan 16 oed)
- Cyflawniad Chwaraeon gan Ferch (o dan 16 oed)
- Gwobr Chwaraeon Anabledd
- Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (o dan 16 oed)
- Arwr Anenwog
- Trefnydd Clwb y Flwyddyn
- Cyflawniad Tîm y Flwyddyn
- Cyflawniad Tîm Iau (o dan 16 oed) y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Clwb y Flwyddyn
- Cyflawniad Oes
Gwobr ychwanegol a gyhoeddwyd ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n galed iawn i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol, ac yn arloesol – ac yn meithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned leol.
Pennawd
Yn y llun mae enillwyr categori Cyflawniad Tîm Chwaraeon Sir Benfro y llynedd - Cwad â Llywiwr Merched Pont yr ŵr – gyda Stephen Thornton o Valero.