English icon English
Tîm ffilmio Aeran Hopewell, James Pugh, Kath Brookes

Esbonio pleidleisio mewn fideo newydd gyda Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro

Voting made easy in new video with Pembrokeshire Supported Employment Programme

Crëwyd fideo newydd mewn partneriaeth â Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro (PSEP) i ddangos pa mor hygyrch y gall pleidleisio fod i bawb.

Mae Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod pawb sydd eisiau pleidleisio yn gallu cael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud hynny, boed hynny drwy bleidlais bost neu wyneb yn wyneb mewn gorsaf bleidleisio.

Cafodd sgiliau Aeran Hopewell, sydd wedi graddio mewn ffilm ac sy'n gweithio gyda PSEP ar hyn o bryd, eu defnyddio wrth iddyn nhw saethu a golygu'r fideo a oedd yn cynnwys cydweithwyr Kath Brookes a James Pugh, ynghyd ag aelodau o'r tîm Gwasanaethau Etholiadol a Chyfathrebu.

Mae'r fideo yn esbonio sut i bleidleisio a'i nod yw tawelu meddwl unrhyw un sydd â phryderon am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Mae'n dangos bod y broses yn syml a bod pobl wrth law bob amser i gynorthwyo pan fo angen.

Bydd ar gael i'w wylio ar YouTube y Cyngor a bydd yn cael ei rannu ymhlith grwpiau cymorth, cymunedol a mynediad o amgylch Sir Benfro a gyda phartneriaid eraill yr Awdurdod Lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Alistair Cameron, Aelod Hyrwyddo Pobl ag Anableddau Dysgu Cyngor Sir Penfro: "Mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae rhai yn eu hwynebu o ran pleidleisio yn bersonol ac mae'r ffilm ragorol hon, a grëwyd gyda chyfraniad y bobl hynny yr ydym yn gobeithio y bydd o fudd iddynt, yn mynd rhywfaint o'r ffordd i dawelu meddwl pawb fod cymorth ar gael bob amser."

Ychwanegodd y Swyddog Canlyniadau Will Bramble: "Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd ar ddod yw'r tro cyntaf y bydd angen i bleidleiswyr cofrestredig yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun felly mae'n wych gweld y fideo hwn yn esbonio'r broses a gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i fynd i'w gorsafoedd pleidleisio."

Gwyliwch a rhannwch y fideo ar YouTube.

Nodiadau i olygyddion

https://www.youtube.com/watch?v=g2B5cbe1UE4 

Hyperlink for YouTube video