English icon English
Dwylo gyda chyfrifiadur a ffôn

Estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy

Pembrokeshire Sustainable Communities Fund open for applications

Mae elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol eraill ymhlith y rhai sydd â chyfle o hyd i fanteisio ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae Cyngor Sir Penfro yn galw ar fudiadau a allai fanteisio ar Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Sir Benfro i wneud cais.

Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ac mae grantiau gwerth rhwng £10,000 a £100,000 ar gael ar gyfer prosiectau newydd.

Ymrwymwyd hyd at £1 miliwn i’r gronfa, ac mae 13 o brosiectau yn Sir Benfro wedi elwa eisoes.

Mae Cronfa Cymunedau Cynaliadwy Sir Benfro yn cefnogi gweithgareddau datblygu a chreu sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â thlodi, cael mynediad at wasanaethau, yr amgylchedd a seilwaith gwyrdd ac ymgysylltu â’r gymuned.

Yn ogystal, mae ffocws ar gyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau yn ymwneud â Gwyliau, Digwyddiadau, Celfyddydau Lleol, Diwylliant a Threftadaeth.

Ceir y manylion llawn am gymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan y Cyngor.

Rhaid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb gan ddefnyddio ffurflen Cyngor Sir Penfro  a rhaid anfon ceisiadau drwy e-bost at communitiesSPF@pembrokeshire.gov.uk.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 11.59pm ddydd Llun Tachwedd 27 2023. Ni fydd unrhyw geisiadau a ddaw i law wedi hynny yn cael eu derbyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau, y Cynghorydd Neil Prior: “Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau lleol sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer ystod eang o brosiectau a fydd yn gwella cymunedau a’r ardal leol i bawb sy’n byw yno.”

Funded by UK Gov bilingual
Levelling Up blue bilingual