Ffair Aeaf Glan-yr-afon i ddod â disgleirdeb i Hwlffordd – dathlu hanes, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol
Haverfordwest to be dazzled by Riverside Winter Fair - A celebration of history, music, and community spirit
Mae disgwyl i ddigwyddiad newydd sbon ddod â chyffro mawr i Hwlffordd y gaeaf hwn, wrth i Ffair Aeaf Glan-yr-afon, y gyntaf o’i math, addo diwrnod llawn hwyl a sbri i bawb o bob oed, a hynny ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd, 2024.
Digwyddiad cymunedol rhad ac am ddim yw hwn, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Benfro drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei nod yw creu awyrgylch gŵyl aeaf hudolus drwy gyfuno hanes, cerddoriaeth, bwyd, gemau ac ysbryd cymunedol.
Canolbwynt Ffair Aeaf Glan-yr-afon fydd penllanw prosiect cymunedol unigryw – sef perfformio Cantata newydd sbon o’r enw “The Children of St Saviours.” A honno wedi’i chyfansoddi gan Alex McGee, gyda chymorth myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, bydd yn adrodd hanes cyfareddol Hwlffordd, gan ganfod ysbrydoliaeth yn y darganfyddiadau archeolegol diweddar yng Nghei’r Gorllewin. Meddai Alex, sy’n hanu o Hwlffordd: “Gwaith cerddorol sy’n tarddu o’r gymuned ei hun fydd hwn, wedi’i berfformio gan y gymuned i’r gymuned”. Bydd y Cantata yn cael ei pherfformio gan gôr plant, the Cantabile Singers of Pembrokeshire, a Cherddorfa’r Sir.
Mae Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn addo bod yn ddiwrnod llawn adloniant i’r teulu i gyd. Bydd Pure West Radio yn darlledu oddi yno’n fyw, gan roi blas o’r cyffro a rhannu lleisiau lleol ar y tonfeddi. “Mae Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn addo bod yn ddiwrnod gwefreiddiol, llawn dathlu i’r teulu i gyd, ac mae Pure West Radio yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r cyffro,” meddai Toby Ellis, Rheolwr Gorsaf Pure West Radio. “Mae’r adloniant a’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu drwy gydol y diwrnod yn wirioneddol ragorol, ac mae’n fraint fawr i Pure West gael bod yn rhan o’r diwrnod.”
Bydd gorymdaith faneri yn cael ei harwain gan Fand Pres Heddlu De Cymru, a phlant ysgolion cynradd lleol fydd wedi creu’r baneri hynny yn ystod gweithdai yr hydref hwn. Span Arts sy’n arwain hynny: “Mae Span wrth eu boddau’n cael trefnu’r gweithdai i greu baneri ar gyfer y Ffair Aeaf. A ninnau â hanes hir o greu celf gymunedol, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at greu baneri i bob un o’r 5 ward.”
I’r plant sy’n awyddus i greu eu baneri eu hunain a chymryd rhan yn y parêd, bydd templedi a syniadau ar gyfer y baneri ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y digwyddiad.
Bydd Fair Play, caffi gemau bwrdd cymunedol yn Hwlffordd, yn trefnu digwyddiad pop-yp. Felly os ydych chi’n chwaraewr gemau brwd, neu’n rhywun sy’n newydd i’r byd hwnnw, bydd croeso cynnes yn Fair Play i fwynhau gemau bwrdd a chysylltu ag eraill.
Bydd Gŵyl Plant Hwlffordd yn helpu i drefnu profiad celf a chwarae gemau gyda’r Fair Play Board Game Café, a hynny yng Nghanolfan Ieuenctid Edge, y drws nesaf i’r parc sglefrio. Bydd Fair Play yn cynnig lle croesawgar i fwynhau gemau bwrdd a chelf a chrefft ac i gysylltu â phobl eraill.
Bydd yr artistiaid Neil Musson a Jono Retallick yn lansio eu model o falŵn aer poeth, sef oriel sy’n arnofio a honno’n deyrnged i bobl Hwlffordd. Mae’r prosiect wedi cael ei ysbrydoli gan lieiniau bwrdd brodiog sydd yng nghasgliad Amgueddfa Tref Hwlffordd, a’r rheini’n cynnwys llofnodion trigolion Hwlffordd o 1914 ymlaen. Treuliodd yr artistiaid wythnos yn Hwlffordd yn gwahodd pobl i ychwanegu eu henwau eu hunain i ymddangos ar y balŵn.
Bydd HaverHub yn cynnal Marchnad Aeaf y Crefftwyr a’r Gwneuthurwyr yn Sgwâr y Castell, a fydd yn troi wedyn yn farchnad bwyd stryd brysur o dan ofal Cylch Busnes Hwlffordd.
“Mae Cylch Busnes Hwlffordd yn falch iawn o fod yn rhan o’r Ffair Aeaf. Rydyn ni’n gobeithio y bydd digwyddiad mor fawr ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn creu prysurdeb ac yn annog pobl i fynd i ysbryd y Nadolig,” meddai Sally Williams, Cadeirydd Cylch Busnes Hwlffordd.
Wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, bydd y goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau gan y Dirprwy Faer ar ran Cyngor y Dref a Chanolfan Siopa Glan-yr-afon.
Meddai Nigel Stopher, Rheolwr y Ganolfan: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at 30 Tachwedd ac at gynnau’r goleuadau Nadolig yn Hwlffordd. Mae hwn wastad yn ddiwrnod gwych i’r teulu ei fwynhau ac i roi pawb yn ysbryd y Nadolig!
"Mae Clerc y Dref yn Hwlffordd wedi cadarnhau bod y Cyngor yn edrych ymlaen yn fawr at weld torf dda yn dod i fwynhau cynnau’r goleuadau Nadolig, ac maen nhw’n falch o gefnogi’r digwyddiad hwn eto eleni, gan gynnwys drwy’r gystadleuaeth flynyddol i greu cardiau Nadolig yn yr ysgolion. Bydd yr enillydd yn cael ei wahodd i bwyso’r botwm sy’n cynnau’r goleuadau gyda’r Dirprwy Faer ar ôl y cyfrif mawr."
Meddai Thomas Tudor, sy’n gynghorydd yn Hwlffordd: “Fel Cynghorydd Sir Ward y Castell, rwy’n edrych ymlaen at y Ffair Aeaf ar 30 Tachwedd 2024. Bydd digonedd o hwyl i’r teulu i gyd, gyda cherddoriaeth, hanes, marchnad grefftau, bwyd stryd, parêd stryd bywiog, a’r diweddglo penigamp wrth droi’r goleuadau’r Nadolig ymlaen. A bydd Siôn Corn a Rwdolff y Carw yno hefyd, heb sôn am y tân gwyllt anhygoel.”
Ymunwch â’r dathlu!
Mae Ffair Aeaf Glan-yr-afon yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, a hwnnw’n rhoi cyfle gwych i ddathlu treftadaeth gyfoethog Hwlffordd, ei chymuned fywiog, a’i pherfformwyr dawnus.
Ewch i wefan y digwyddiad https://riversidewinterfair.co.uk/cymraeg/ i gofrestru i fod ar y rhestr bostio, i gael templedi y gallwch eu lawrlwytho ar gyfer y baneri, i ymuno â’r parêd, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
I archebu stondin ym Marchnad Aeaf y Crefftwyr a’r Gwneuthurwyr, ewch i https://riversidewinterfair.co.uk/cymraeg/
Paratowch i fwynhau gŵyl aeafol llawn hwyl, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol yn Ffair Aeaf Glan-yr-afon!