
Ffederasiwn ysgolion yn dathlu ei 'chymuned hapus a chynhwysol'
School federation celebrates its ‘happy and inclusive community’
Mae arolygiad cadarnhaol diweddar gan Estyn o Ysgol Casmael ac Ysgol Llanychllwydog wedi tynnu sylw at gymuned hapus a chynhwysol ac amgylchedd dysgu gofalgar y ffederasiwn ysgolion.
Mae adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Estyn yn amlygu ymddygiad rhagorol bron pob disgybl yn yr ysgolion cynradd Cymraeg, gan ei gysylltu â'r ymdeimlad cryf o berthyn sydd wedi'i ymwreiddio gan y pennaeth.
Mae'n ychwanegu: "Mae staff yn darparu sesiynau ysgogol sy'n ysbrydoli disgyblion i ymrwymo'n frwdfrydig i'w dysgu. Maent yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu effeithiol, yn cynllunio sesiynau diddorol ac ystyrlon, ac yn addasu gweithgareddau yn addas i ddiwallu anghenion bron pob disgybl.”
Mae pwyslais ar ddarllen wedi'i gynnwys yn adroddiadau Estyn ac mae'n dangos bod datblygiad proffesiynol pwrpasol ar ymyriadau a strategaethau darllen wedi arwain at ddiwylliant cryf o ddarllen ar draws yr ysgolion, a bod bron pob disgybl yn gwneud cynnydd rhagorol yn eu sgiliau darllen.
Ychwanega Estyn: "Mae'r pennaeth a'i thîm yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol ar draws y ffederasiwn i greu cymuned hapus a chynhwysol, trwy roi hunaniaeth a threftadaeth leol wrth wraidd profiadau disgyblion.
“Mae'r pennaeth yn adnabod anghenion disgyblion, staff a'r cymunedau yn eithriadol o dda. Mae gan ysgolion y ffederasiwn gysylltiadau llwyddiannus â'r gymuned leol i gynnig profiadau gwerthfawr i'r disgyblion."
Dywedodd y Pennaeth Amanda Lawrence: "Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchiad o'r rôl hynod arwyddocaol y mae fy nwy ysgol yn ei chwarae yn eu cymuned leol.
“Mae llwyddiant pob disgybl yn deillio o'r ymdeimlad cryf o berthyn, sy’n cael ei feithrin gan y staff, y rhieni, y llywodraethwyr a'r gymuned gyfan. Mae wir yn cymryd pentref i fagu plentyn!"