English icon English
Cwpl sy'n derbyn allwedd i eiddo

Fforwm Landlordiaid i'w gynnal ym mis Awst yn Neuadd y Sir

Landlords Forum to be held in August at County Hall

Mae landlordiaid sector preifat lleol yn cael eu gwahodd i ddarganfod y newyddion diweddaraf o'r sector rhentu preifat mewn Fforwm Landlordiaid ar 3ydd Awst am 6pm yn Neuadd y Sir, Hwlffordd.

Bydd y fforwm, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Sir Penfro, yn cynnwys siaradwyr gwadd o dri sefydliad:

  • Llywodraeth Cymru (yn siarad am yr adolygiad o'r Papur Gwyrdd ar gyfer Rhenti Teg)
  • Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (NRLA)
  • Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Penfro (yn siarad am Dai Sector Preifat)

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6pm (drysau'n agor o 5.30pm) ac yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae parcio ar gael y tu allan.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, fod y fforwm cyntaf ym mis Ionawr yn llwyddiant mawr, ac anogodd landlordiaid i fynychu'r un hwn. “Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod y datblygiadau diweddaraf yn y sector rhentu preifat,” meddai.