English icon English
Grŵp y tu allan i doiled y Porth Mawr

Agor cyfleuster Changing Place cyntaf Sir Benfro wrth y traeth

First Pembrokeshire beach-side Changing Place facility opened

Mae cyfleuster pwysig sy’n cefnogi mynediad pobl anabl i draethau Baner Las Sir Benfro wedi’i agor mewn pryd ar gyfer tymor yr haf.

Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i wella cyfleusterau a mynediad at gyfleoedd ar draws y Sir, mae Changing Place ac Ystafell Deuluol wedi cael eu datblygu yn nhraeth Porth Mawr, Tyddewi.

Bydd hyn yn gwella cynwysoldeb yn y cyrchfan poblogaidd hwn ac yn caniatáu i bobl na fyddent, fel arall, yn gallu ymweld oherwydd diffyg cyfleusterau i ddiwallu eu hanghenion, fwynhau’r ardal.

Mae gan gyfleuster Changing Place fwy o le a chyfarpar hanfodol, gan gynnwys mainc newid maint oedolyn, y mae modd addasu ei huchder, toiled penrhyn, sgrin preifatrwydd a theclyn codi.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Ni all llawer o bobl, yn enwedig oedolion, ag anableddau ddefnyddio toiledau hygyrch safonol gan fod angen cyfarpar arbenigol arnynt a lle ychwanegol iddyn nhw’u hunain a’u gofalwyr. Mae hyn yn golygu bod darpariaeth toiledau annigonol yn gallu bod yn rhwystr rhag mynd allan am y dydd ac mae’n cyfyngu ar gyfleoedd i fwynhau lleoedd fel y gwna unigolion nad ydynt yn anabl. 

“Bydd gosod cyfleuster Changing Place yma yn sicrhau bod cyfle cwbl gynhwysol ar gael i bawb. Bydd yn gwella ac yn ymestyn y cynnig presennol i bobl ag anabledd sydd ar gael ar y traeth mynediad hawdd dynodedig hwn, sy’n cynnwys toiled hygyrch safonol ar hyn o bryd, ynghyd â chynllun hurio cadeiriau olwyn traeth yn yr haf.

“Dyma gyfleuster Changing Place cyntaf Sir Benfro ar y traeth a’n gobaith yw, os bydd yn llwyddiannus, y gallwn nodi ardaloedd eraill a fyddai’n elwa o ddatblygiad o’r fath.”

Changing Places toilet interior

Ychwanegodd Cydlynydd Cadeiriau Olwyn Traeth a Symudedd yn yr Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Angela Robinson: “Bydd cyfleuster Changing Place yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned leol ac i dwristiaeth wrth i ni symud ymlaen i wneud Arfordir Penfro’n fwy hygyrch i bawb.

“Mae’r cyfleusterau newydd yn gam calonogol i’r cyfeiriad cywir ac mae’n ategu’r gadair olwyn traeth a’r ‘rollator’, sydd ar gael i’w hurio am ddim ym Mhorth Mawr.”

Mae’r Ystafell Deuluol yn newydd i’r safleoedd toiledau cyhoeddus y mae’r Cyngor yn berchen arnynt neu’n eu rheoli, ac mae’n cydnabod yr anawsterau y gall teuluoedd eu cael o ran defnyddio cyfleusterau toiledau. Mae’r ystafell yn darparu toiled maint safonol ynghyd â thoiled llai i blant iau, uned newid cewynnau a lle mawr i gadeiriau gwthio.

Family toilet

Mae ailddylunio ac ailddatblygu’r adeilad presennol hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r tu mewn a’r tu allan, a gosod man ail-lenwi poteli dŵr. 

Mae mynediad i’r toiledau Changing Places ar gael i bobl sydd angen defnyddio’r cyfarpar arbenigol hwn. Gellir casglu cerdyn allwedd o Gaffi Whitesands Beach House Café, gofalwr y Maes Parcio ar y safle neu o Ganolfan Ymwelwyr Oriel Y Parc, Tyddewi, yn ystod oriau agor.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Gronfa Pethau Pwysig 2022-2023 Llywodraeth Cymru i wella profiad ymwelwyr ledled Cymru, gyda chyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Mae’r prosiectau sy’n cael eu cefnogi gan y Gronfa Pethau Pwysig wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae amwynderau twristiaeth lleol yn chwarae rhan fawr wrth wneud taith yn un gofiadwy. Yn aml, ni sylwir ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelydd ac maent o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardal hefyd.”

Mae mwy o wybodaeth am gadeiriau olwyn traeth a’r offer symudedd arall sydd ar gael i’w hurio am ddim i’w gweld ar-lein ar wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.