English icon English
Pythefnos Gofal Maeth (15-28 Mai) poster dwyieithog gyda'r teulu y tu allan i gastell.

Maethu Cymru Sir Benfro yn galw ar gyflogwyr lleol i gefnogi gofalwyr maeth

Foster Wales Pembrokeshire calls on local employers to support foster carers

Mae cyflogwyr yn cael eu hannog i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’ yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn, oherwydd bod angen gofal maeth ar bump o blant yng Nghymru bob dydd. 

Yn Sir Benfro, mae mwy na 240 o blant yng ngofal yr awdurdod lleol ond dim ond tua 60 o ofalwyr maeth sy’n gallu cynnig y cartrefi sefydlog a chariadus maen nhw’n eu haeddu – boed hynny am ychydig ddiwrnodau, misoedd neu sawl blwyddyn.

Wrth i deuluoedd ar draws y wlad ymdrechu i ymdopi â’r argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru, sef y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu awdurdod lleol yng Nghymru, yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r gamdybiaeth na allwch barhau i weithio os byddwch yn dod yn ofalwr maeth.

Yn ystod y Pythefnos Gofal MaethTM (15-28 Mai), mae’r Rhwydwaith Maethu, sef prif elusen faethu’r Deyrnas Unedig, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn gofyn i’r gymuned fusnes ehangach gynorthwyo a’i gwneud yn haws i’w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall ac mae eu polisi ‘cyfeillgar i faethu’ yn annog cyflogwyr i roi hyblygrwydd ac amser i ffwrdd i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd trwy’r broses ymgeisio.

Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, gan ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, mynychu paneli, ymgartrefu plentyn newydd yn eu cartref ac ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi.

Gallai cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hollbwysig mewn penderfyniad gweithiwr i ddod yn ofalwr maeth.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Penfro: “Un o’r pethau niferus rydym yn eu gwneud i gefnogi ein gofalwyr maeth yn Sir Benfro yw annog cyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu.

“Rydym yn gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddynt rywun yn gefn iddynt yn y tymor hir, rydym yn gweld canlyniadau gwell. 

“Os gall cyflogwyr yn Sir Benfro gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gallwn helpu mwy o blant i aros yn lleol, yn gysylltiedig â’u cymunedau ac, yn y pen draw, i gyflawni dyfodol gwell.”

Mae Cyngor Sir Penfro yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl ac yn cefnogi gofalwyr maeth yr awdurdod lleol sy’n gweithio i’r cyngor.

Dywedodd Melany Evans, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant mewn Gofal: “Fel awdurdod lleol, rydym yn gyfrifol am yr holl blant y mae arnynt angen gofal maeth, ac rydym ni, fel rhieni corfforaethol, yn gallu cefnogi gofalwyr maeth yr awdurdod lleol sydd hefyd yn gweithio i’r cyngor trwy gynnig rhywfaint o hyblygrwydd a chefnogaeth yn y gweithle.”

Dechreuodd Vanessa, Matthew a James Jones faethu bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Vanessa: “Maethu ar gyfer Sir Benfro oedd un o’r penderfyniadau gorau i ni ei wneud erioed. Mae maethu tymor hir yn gweddu i ni fel teulu gan ein bod yn gallu dangos amgylchedd hapus, cariadus a chefnogol i bobl ifanc. 

“Mae’r llawenydd a deimlwch pan fydd plentyn yn cyflawni rhywbeth newydd yn rhoi cymaint o foddhad. Mae maethu brodyr a chwiorydd yn rhoi hyd yn oed mwy o foddhad gan ein bod yn gallu eu cadw gyda’i gilydd. Maen nhw’n dod yn rhan o’r teulu a’r gymuned leol ehangach.”

 

Maethu Cymru

Mae Michelle Christopher a’i theulu wedi bod yn darparu gofal i blant a phobl ifanc am y pedair blynedd diwethaf. Mae hi’n cyfuno maethu â gweithio pedwar diwrnod yr wythnos fel ceidwad stordy gyda’r fyddin, trwy gynnig penwythnosau a seibiannau byr i blant, gan ddarparu profiadau difyr a gweithgareddau sy’n cynyddu parch iddynt. 

“Rwy’n mwynhau rhoi penwythnos braf i’r plant a chreu atgofion difyr iddyn nhw (a fi!),” meddai.

Ychwanegodd ei merch, Elise: “Yr agwedd gadarnhaol ar fod yn deulu maeth yw ein bod ni’n gallu darparu amgylchedd diogel, cariadus a chynnes i blentyn nad yw wedi profi hynny o’r blaen, efallai.

“Gallwn ddangos iddo sut beth yw cartref sefydlog, ei ddysgu sut i fod yn unigolyn cyflawn a rhoi profiadau iddo na chafodd yn gynharach yn ei blentyndod, o bosibl.”

Dywedodd Tony ac Elaine Lunt sydd wedi bod yn maethu am 36 mlynedd: “Mae rhannu ein cartref gyda phlant ac oedolion ifanc wedi bod yn antur heriol a gwerth chweil sydd wedi rhoi llawer o atgofion da i ni.”

Maethu Cymru 2

Bydd Tîm Maethu Cymru Sir Benfro yma ac acw o amgylch y sir yn ystod y Pythefnos Gofal MaethTM, felly os hoffech ddysgu mwy am y gwahanol fathau o faethu sydd ar gael a sut gallech chi helpu plant a phobl ifanc yn Sir Benfro, mae manylion ble i alw heibio i gael sgwrs ar gael ar Facebook.

Neu ffoniwch 01437 774650 neu ewch i wefan Maethu Cymru Sir Benfro.

Mae Nicky Sandford, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog cyflogwyr lleol i gael gwybod mwy am sut i ddod yn gyfeillgar i faethu a helpu gwasanaethau maethu awdurdod lleol i ddatblygu’r cymorth maen nhw’n ei gynnig i ofalwyr maeth newydd a phresennol ymhellach.

Gall hyn gynnwys gweithio hyblyg, dysgu a sgiliau trosglwyddadwy a chymorth gan gymheiriaid. Anfonwch neges e-bost at fosteringfriendly@fostering.net i gael gwybod mwy.