Gall trefi newydd a strydoedd ychwanegol nawr gynnig am grantiau cynllun paent
New town and extra streets can now bid for paint scheme grants
Mae cynllun sy'n cefnogi busnesau yng nghanol trefi i dacluso y tu allan i’w hadeiladau yn cael ei ymestyn i gynnwys Dinbych-y-pysgod.
Ers dechrau'r flwyddyn mae busnesau ar rai strydoedd yn rhai o drefi mwyaf Sir Benfro wedi cael gwahoddiad i ddefnyddio Cynllun Paent Strydlun, rhan o Raglen Gwella Strydoedd y Cyngor Sir.
Dinbych-y-pysgod yw'r dref ddiweddaraf i gael ei chynnwys a gall busnesau ar y Stryd Fawr, Tudor Square, St Georges Street, Stryd yr Eglwys, Upper a Lower Frog Street a South Parade wneud cais am hyd at £4,999 fesul eiddo.
Bydd y gronfa'n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo. Gellir defnyddio grantiau ar gyfer prynu deunyddiau (primer, tangôt cerrig a phaent cerrig allanol) neu tuag at gost defnyddio contractwr.
Bydd y grantiau'n darparu 80 y cant o gyfanswm y gwariant cyfalaf a rhaid cwblhau cynlluniau erbyn mis Tachwedd 2024.
Ymhlith y strydoedd ychwanegol a ychwanegwyd at y cynllun mae Sgwâr y Farchnad a'r Brif Stryd yn Abergwaun, Stryd y Farchnad a Picton Place yn Hwlffordd, Stryd Meyrick Doc Penfro a Stryd Northgate ym Mhenfro.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Paul Miller: "Rhan yn unig yw hyn o ymrwymiad y Cyngor Sir i adfywio trefi Sir Benfro a'u cymunedau ehangach."
Ychwanegodd y Cynghorydd Miller, sydd hefyd yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor: "Gall perchnogion busnes gael gafael ar arian i wella golwg gyffredinol eu heiddo sydd yn ei dro yn eu gwneud y lleoedd yn fwy deniadol i ymweld â nhw.
“Rydym am i ganol ein trefi ffynnu ac mae'r cynllun hwn yn un ffordd o helpu i gefnogi hynny."
I gael gwybodaeth lawn am y Cynllun Paent Strydlun, gan gynnwys manylion am gymhwysedd grant a dolen i wneud cais am y cynllun
- edrychwch ar dudalen Rhaglen Gwella Strydoedd y Cyngor ar eu gwefan
- neu e-bostiwch spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r Gronfa Ffyniant Bro i annog canol trefi bywiog.