English icon English
Foster Wales Meathu Cymru

Gofalwr maeth o Sir Benfro yn dod â ‘rhywbeth at y bwrdd’ i gefnogi pobl ifanc yn yr ardal

Pembrokeshire foster carer ‘brings something to the table’ to support young people in the area

Mae Mandy yn gobeithio y bydd rhannu phrofiadau o faethu yn annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr.

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Sir Benfro yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol – yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a’r profiad ‘cywir’.

Yn eu llyfr newydd – Dewch â rhywbeth at y bwrdd – mae Maethu Cymru’n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig – megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a’r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd – gan dynnu o’u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Mae Mandy a'i gŵr Neil wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Benfro ers 2008. Gan fyfyrio ar eu taith, mae Mandy yn rhannu, "Dros y blynyddoedd rydym wedi bod â llawer o blant nad oedd yn gwybod pryd y bydden nhw’n cael y pryd o fwyd nesaf, a oedd yn arwain at orfwyta ac yn aml byddem yn dod o hyd i fwyd wedi’i guddio a phecynnau gwag y tu ôl i'r teledu."

Er gwaethaf petruso ar y cychwyn, dywed Mandy, "Roedd llawer o’r bwydydd yn ymddangos yn estron... Ond ar ôl iddyn nhw flasu'r bwydydd anghyfarwydd hyn, bydden nhw'n eu mwynhau ac eu heisiau dro ar ôl tro." Mae Mandy yn pwysleisio pwysigrwydd sefydlogrwydd trwy weithgareddau fel pobi a pharatoi prydau bwyd, gan ddweud, "Byddem yn gwneud tipyn o bobi, a'u cael nhw i helpu i baratoi prydau bwyd a oedd yn help mawr o ran rhoi cynnig ar bethau newydd, a dod yn fwy cyfforddus o amgylch bwyd."

Mae eu taith yn tanlinellu arwyddocâd y pethau syml y gall gofalwr eu cynnig, themâu sy'n cael eu dathlu yn llyfr coginio newydd Maethu Cymru, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’.

 

Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn

I lansio’r llyfr bydd Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddant yn dysgu rysáit newydd  a sgiliau coginio hollbwysig i gymryd gyda nhw i’w bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio hefyd.

Sophia Warner, Cymraes sy’n ddarlunydd, ymgyrchydd ac yn berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal greodd ddarluniau a rhagair y llyfr:

“Pan oeddwn i’n iau, dw i’n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai’n ei baratoi. Roeddwn i’n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais ‘Bolognese Aberhonddu’ ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

“Mae’r rysáit yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma’r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i’w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes – teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes.”

 

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

Bob mis Mai mae Pythefnos Gofal Maeth™ – ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae’r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Dywedodd Darren Mutter, Pennaeth Gwasanaeth Plant Sir Benfro: "Wrth i ni ddathlu Pythefnos Gofal Maeth rydym am ddiolch i bob un o'n gofalwyr maeth am roi diogelwch a sefydlogrwydd i blant yn ein gofal."

“Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch faethu, ac rwy'n annog unigolion a theuluoedd yn Sir Benfro i estyn allan ac ystyried y gwahanol ffyrdd y gallan nhw wneud gwahaniaeth ym mywyd person ifanc."

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: maethucymru.llyw.cymru/gall-pawb-gynnig-rhywbeth

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i sirbenfro.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 01437 774650

Mae cyfweliadau gyda chynrychiolwyr Maeth Cymru a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar gael drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth.

 

Ynglŷn â Phythefnos Gofal Maeth

  • Pythefnos Gofal Maeth™ yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.
  • Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth 2024 rhwng 13-26 Mai.
  • Thema’r bythefnos yw #MunudauMaethu.

 

Ryseitiau a chyfranwyr

Ryseitiau gan enwogion

  • Saws ‘popeth’ Colleen - Colleen Ramsey, cyflwynydd ac awdur y llyfr coginio teuluol dwyieithog, Bywyd a Bwyd - Life Through Food
  • Sbageti teulu Wynne - Wynne Evans, Enillydd MasterChef
  • Selsig a llysiau wedi’u crasu, Poppy - Poppy O’Toole, Beirniad Young MasterChef
  • Pasteis de Nata Jon - Jon Jenkins, seren The Great British Bake Off a gofalwr maeth, Casnewydd
  • Pastai bwthyn teulu Fatima - Fatima Whitebread, MBE, medalydd Olympaidd x2, enillydd gwaywffon byd, deiliad record byd, ac ymgyrchydd dros faethu.
  • Chicken Kabsa - Kiri Pritchard McLean sy’n ddigrif-wraig ac yn ofalwr maeth ar Ynys Môn. Mae ei sioe stand-yp, Peacock, yn rhannu ei thaith i ddod yn ofalwr maeth.

 

Ymadawyr gofal

  • Bolognese Aberhonddu - Sophia, darluniwr ac ymadawr gofal, Caerdydd
  • Cacen gaws June - John, sylfaenydd ‘the Care Experience Network’, Arbenigwr â Phrofiad o Fod Mewn Gofal ar gyfer Partneriaeth John Lewis, ymadawr gofal, ac aelod o banel gofalwyr maeth awdurdod lleol annibynnol.
  • Cacenni pysgod Ryan - Ryan, egin-gogydd a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • Pasta tiwna pob - Sam*, ymadawr gofal ac aelod o Voices from Care Cymru – grŵp sy’n dod â phobl ifanc sydd mewn gofal neu wedi gadael gofal ynghyd ledled Cymru. Gall unrhyw berson ifanc sydd mewn gofal neu wedi bod mewn gofal ymaelodi.
  • Brownis Oreo - Rhys, cogydd proffesiynol ac ymadawr gofal

 

Gofalwyr Maeth

  • Hash Corn-bîff Nain - Ian, gofalwr maeth, Conwy
  • Pastai caws a chig moch Mam-gu - Emily, gofalwr maeth, Casnewydd
  • Pitsa cartref Jenny - Jenny, gofalwr maeth, Sir y Fflint
  • Pasta arbennig Pete - Pete a Vonda, gofalwyr maeth, Sir Ddinbych
  • Crymbl Gwreiddlysiau - Ian, gofalwr maeth, Castell-nedd Port-Talbot
  • Grefi arbennig - Christine a Mike, gofalwyr maeth, Bro Morgannwg 
  • Pwdin Efrog Vicky - Vicky, gofalwr maeth, Pen-y-bont
  • Twmplenni India’r Gorllewin - Sue, gofalwr maeth, Ceredigion
  • Cyrri Thai Gwyrdd - Tracey, gofalwr maeth, Castell-nedd Port Talbot
  • Kadhai cyw iâr (cyrri ar gyfer achlysur arbennig) - Kanu, gofalwr maeth, Gwynedd
  • Swper Eid (Akhni fulab (reis pilaw a chig oen) Pwdin Kheer) - Claire, gofalwr maeth, Caerdydd