English icon English
Llun o'r awyr o'r gwaith yn Glasfryn

Gofyn am farn cymuned ar ddyrannu cartrefi newydd Tyddewi

Community asked for views on allocation of new St Davids homes

Mae cam cyntaf datblygiad tai Glasfryn Cyngor Sir Penfro yn Nhyddewi yn dod yn ei flaen yn dda ac mae'r ail gam wedi dechrau hefyd.

Dechreuodd y datblygiad, sy'n cael ei adeiladu gan GRD Homes Ltd, ym mis Tachwedd 2023, ac mae’n ymddangos y bydd dyddiad cwblhau’r cam cyntaf, sef gaeaf 2024, yn cael ei gyflawni cyn hynny.

Mae'r cam cyntaf yn cynnwys saith cartref, cymysgedd o fyngalos un a dwy ystafell wely.

Wrth i'r gwaith ddod yn nes at gael ei gwblhau bydd y cartrefi yn cael eu hysbysebu drwy Cartrefi Dewisedig Sir Benfro.

Cyn hyn, bydd tîm tai'r Cyngor yn cynnal ymgysylltiad cymunedol ar 13 Awst 2024 yng Nghanolfan Tŷ’r Pererin, Quickwell Hill, Tyddewi, SA62 6PD, 5pm-7pm.

Bydd yn gyfle i swyddogion gyd-gysylltu â'r gymuned leol ynglŷn â'r broses ddyrannu ar gyfer y cartrefi hyn.

Mae ail gam Glasfryn eisoes wedi dechrau, a'r sylfeini cychwynnol wedi'u gosod. Mae'r cam hwn yn cynnwys 11 byngalo arall â dwy ystafell wely, a’r dyddiad cwblhau yw diwedd 2025.

Bydd y byngalos hyn yn bodloni Gofyniad Ansawdd Datblygu diweddaraf Llywodraeth Cymru, a byddant yn effeithlon o ran ynni, wedi'u hadeiladu i fanyleb Tystysgrif Perfformiad Ynni A ac yn cynnwys paneli solar i helpu tenantiaid gyda chostau cynnal.

Caiff datblygiad Glasfryn ei ariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai: "Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'r gymuned ar bolisi gosod lleol ar gyfer y cartrefi newydd hyn, fel yr ydym wedi'i wneud ar gyfer ein datblygiadau mewn rhannau eraill o'r sir."

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar devCLO@pembrokeshire.gov.uk, ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu ewch i dudalen Facebook y gwasanaethau tai.