English icon English
Argraff artistiaid Datblydiad tai Brynhir

Gwahodd y gymuned i ddigwyddiad diweddaru ar ddatblygiad tai Brynhir

Community invited to Brynhir housing development update event

Mae'r datblygiad tai arfaethedig ym Mrynhir yn Ninbych-y-pysgod wedi cyrraedd cam pwysig yn y broses ddylunio.

Cynhelir digwyddiad galw heibio ymgysylltu â'r gymuned ddydd Mawrth 3ydd Hydref 2023 rhwng 3:30pm a 7:30pm ym Mhafiliwn De Valence, Upper Frog St, Dinbych-y-pysgod, SA70 7JD. 

Mae'r digwyddiad ymgysylltu yn gyfle i Gyngor Sir Penfro arddangos y cynlluniau diweddaraf ar gyfer datblygiad Brynhir i'r gymuned.

Bydd cynrychiolwyr o'r ymgynghorwyr dylunio, tîm Datblygu Tai PCC a'r timau tai ehangach wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y cynlluniau. 

Gan gynnig cyfle i rannu adborth a sylwadau am y datblygiad, mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i'r rhai sydd â diddordeb yn y cartrefi hyn neu dai cymdeithasol eraill gasglu ffurflen gais er mwyn ymuno â'r gofrestr tai.