Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol i bont wedi'u cynllunio ar gyfer dechrau mis Ionawr
Essential bridge maintenance and repairs planned for early January
Mae gwaith sylweddol i Bont Westfield Pill wedi’i gynllunio a fydd yn effeithio ar draffig ar yr A477.
Disgwylir i'r gwaith hanfodol i atgyweirio a chynnal a chadw'r bont brysur dros Westfield Pill, rhwng Neyland a Doc Penfro, ddechrau ddydd Llun, 19 Ionawr.
Yn dilyn Prif Arolygiad yn 2022, nodwyd rhaglen o waith hanfodol i gynnal gwydnwch yr adeiladwaith.
Gwnaed gwaith sylweddol ddiwethaf ar y bont ym 1998 a bu’n rhaid cau'r strwythur yn llwyr, fodd bynnag, bwriedir rheoli'r gwaith yn 2026 trwy systemau rheoli traffig er mwyn osgoi cau'r bont.
Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr 2026 ac yn canolbwyntio ar y gwaith adnewyddu hanfodol canlynol:
- disodli parapetau'r bont tua'r dwyrain a thua'r gorllewin
- ailosod yr uniadau ehangu
- rhoi wyneb newydd
Disgwylir i'r gwaith bara llai na thri mis, gan gynnwys gweithio ar y penwythnos ac yn ystod y nos.
Bydd yr holl waith yn cael ei wneud o ddec y bont ac mae wedi'i drefnu i osgoi gwaith arall a gynlluniwyd ar y gefnffordd a chyfnodau is o draffig.
Bydd signalau traffig dwyffordd yn cael eu defnyddio drwy gydol y gwaith a bydd y rhain yn cael eu rheoli â llaw yn ystod cyfnodau prysur ac fe wneir pob ymdrech i leihau unrhyw oedi, yn enwedig ar drafnidiaeth ysgol.
Efallai y bydd oedi ar lwybrau bysiau 349 (Hwlffordd-Doc Penfro-Dinbych-y-pysgod) a 356 (Aberdaugleddau-Monkton) yn ystod y cyfnod hwn.