Gwella dyfodol chwaraeon gyda chyllid Sefydliad Pêl-droed Cymru
Sporting future enhanced with Cymru Football Foundation funding
Mae rhaglen Cyfleusterau Ffit ar gyfer y Dyfodol Sefydliad Pêl-droed Cymru yn cefnogi datblygu cae 3G newydd yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod.
Mae Hamdden Sir Benfro wedi llwyddo i gael grant o £407,000 ar gyfer
cyfleuster 3G newydd yn lle’r cae astro turf gan wella'r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgol a chlybiau cymunedol ill dau.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau y gall Sir Benfro barhau i ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar draws y sir.
“Bydd y cydweithio a arweinir gan adran hamdden Cyngor Sir Penfro sy’n cynnwys Sefydliad Pêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgol Greenhill a’r clybiau cymunedol, yn darparu cyfleuster gwych i bawb.”
Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cyflawni ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cyfleusterau ysbrydoledig, Ffit ar gyfer y Dyfodol i gyfoethogi cymunedau ledled y wlad.
Dysgwch ragor drwy ymweld â gwefan y sefydliad (yn agor mewn ffenestr newydd).
Yn y llun:
Gary Nicholas (Leisure Services Manager, Pembrokeshire Leisure), Angie Nicholls (Pembrokeshire Schools Football), Cllr Sam Skyrme Blackhall, Steph Amos (Tenby Leisure Centre), David Haynes (Head Teacher – Greenhill Secondary School) ac Mark Hughes (Cymru Football Foundation).