Gwirio bagiau du - dyma pam bod hyn yn bwysig
Checking black bags - here’s why it matters
Os ydych chi’n mynd i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu, peidiwch â synnu os fydd eich bagiau du yn cael gwiriad cyflym.
Pam? Oherwydd y gellid ailgylchu neu ailddefnyddio mwy na 48% o’r hyn sy’n cael ei daflu - ac mae rhai eitemau (fel batris/fêps a chaniau nwy) yn berygl tân difrifol mewn gwastraff cyffredinol.
Mae’r gwiriadau hyn yn helpu i gadw staff yn ddiogel, torri lawr ar gostau, a sicrhau nad yw deunyddiau gwerthfawr yn cael eu gwastraffu.
Y newyddion da: mae’n haws nag erioed i ailgylchu. Gall llawer o eitemau fynd yn eich casgliad ymyl y ffordd, ac mae gan bob canolfan opsiynau ychwanegol bellach fel sgipiau ar gyfer plastig caled.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae gan Sir Benfro rai o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru ac rydym am gadw pethau felly
“Nid achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr canolfannau yw diben y gwiriadau cynyddol, ond yn hytrach sicrhau nad yw eitemau sy’n cael eu gwaredu’n anghywir yn peryglu diogelwch staff y canolfannau gwastraff ac ailgylchu. Mae’r eitemau hyn hefyd yn costio mwy i drethdalwyr eu gwaredu pan nad ydynt yn cael eu trin yn gywir.”
Rydyn ni wedi dod o hyd i rai eitemau annisgwyl mewn bagiau du - gan gynnwys popty, batri car a silindrau nwy. Os yw’n swmpus, yn drydanol neu’n beryglus, nid yw’n briodol i’ch bag du! Gwiriwch cyn i chi daflu.
Awgrym cyflym:
Cyn i chi ymweld, cymerwch funud i ddidoli eich gwastraff - bydd yn arbed amser i chi ar y safle ac yn helpu i gadw cyfraddau ailgylchu Sir Benfro yn uchel.
A chofiwch: peidiwch byth â rhoi batris/fêps yn eich bagiau du — maen nhw’n risg tân difrifol.
Gwiriwch beth sy’n mynd i ble: www.sir-benfro.gov.uk/gwastraff-ac-ailgylchu