pwyntio at gynlluniau gyda beiros

Gwrandawiadau archwilio ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 2 Sir Benfro i ddechrau ym mis Tachwedd

Examination hearings for Pembrokeshire’s Local Development Plan 2 to begin in November

Rhannu:

Cyhoeddwyd y dyddiadau ar gyfer sesiynau’r gwrandawiadau cyhoeddus sy'n rhan o'r archwiliad annibynnol o Gynllun Datblygu Lleol Sir Benfro (CDLl) 2. 

Mae hwn yn Gynllun Datblygu newydd sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer lleoliadau yn Sir Benfro, ac eithrio'r rhai ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd yr archwiliad, fydd yn cael ei gynnal gan Ian Stevens BA (Anrh) MCD MRTPI, a benodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2025, yn cynnwys tair wythnos o sesiynau gwrandawiadau yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2026.

Bydd y sesiynau'n dechrau am 10am:

  • Dydd Mawrth 10 i ddydd Iau 12 Tachwedd 2026
  • Dydd Mawrth 17 i ddydd Iau 19 Tachwedd 2026
  • Dydd Mawrth 1 i ddydd Iau 3 Rhagfyr 2026

Bydd sesiynau’r gwrandawiadau yn cael eu cynnal yn rhithwir a byddant yn agored i aelodau o'r cyhoedd i’w gwylio.

Mae manylion pob sesiwn, gan gynnwys y materion fydd yn cael eu hystyried a'r bobl fydd yn cymryd rhan (y cyfranogwyr), ar gael yn yr adrannau Sesiynau Gwrandawiadau a Dogfennau’r Archwiliad ar dudalen we archwiliad CDLl 2.

Mae nodyn canllaw, sy'n esbonio'r broses archwilio, ar gael yn nogfen ED30, sydd hefyd wedi'i rhestru ar dudalen we'r archwiliad.

Bydd yr archwiliad yn ystyried pob agwedd ar y Cynllun newydd sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys dull strategol cyffredinol y Cyngor a dyrannu safleoedd penodol o fewn ardal y cynllun at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys tai a chyflogaeth yn y dyfodol. 

Yn dilyn y Gwrandawiadau Archwilio, bydd yr Arolygydd yn paratoi adroddiad a bydd yn rhaid i’r Cyngor weithredu ei gasgliadau. Pan fydd ar gael, bydd y Cyngor wedyn yn gallu mabwysiadu'r Cynllun newydd, ar y ffurf a gyfarwyddwyd gan yr Arolygydd.  

Mae'r broses archwilio yn cael ei rheoli gan Deborah Williamson, Swyddog y Rhaglen, o dan gyfarwyddiadau'r Arolygydd.

Gall unrhyw un sydd ag ymholiadau am yr archwiliad gysylltu â'r Swyddog Rhaglen drwy e-bost yn programmeofficer@pembrokeshire.gov.uk neu dros y ffôn ar 01437 775545.

Mae'r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o'r archwiliad ar gael ar dudalen we cyflwyniad CDLl 2.