
Her rwyfo elusennol dros 'Fôr Iwerddon'
Charity rowing challenge across the ‘Irish Sea’
Gwnaeth aelodau o Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau ymgymryd â her rwyfo rithwir dros Fôr Iwerddon i gefnogi elusen profedigaeth Sandy Bear.
Bu’r bobl ifanc yn gwneud yr her dros nos gan rwyfo'r pellter o Aberdaugleddau i Iwerddon – tua 80 milltir forol.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 24 Gorffennaf yng Nghanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau a daeth â phobl ifanc ynghyd sy'n awyddus i greu newid cadarnhaol yn eu cymuned.
Trwy gydol y nos, cymerodd y bobl ifanc eu tro mewn partneriaeth â gweithwyr ieuenctid a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar beiriannau rhwyfo, gan gronni yn raddol y milltiroedd oedd eu hangen i groesi Môr Iwerddon – gyda dyfalbarhad, gwaith tîm, a phenderfyniad gan aelodau wrth iddynt gefnogi ei gilydd drwy'r oriau mân i gadw ati.
Erbyn y bore, roedd y Cyngor Ieuenctid wedi cwblhau'r pellter cyfan yn llwyddiannus a chodi £700 gwych i Sandy Bear.
Mae elusen profedigaeth Sandy Bear yn cynnig cefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc yn Sir Benfro sy'n galaru ar ôl profedigaeth.
Rhoddwyd yr arian a godwyd i Sandy Bear i gyfrannu tuag at allu darparu adnoddau, arweiniad, a lle diogel i bobl ifanc sy'n wynebu cyfnod anodd.
Mae Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau yn fforwm ieuenctid cymunedol sy'n cyfarfod yn wythnosol i greu a chynnal prosiectau fydd o fudd i bobl ifanc a'r gymuned leol.
Dros y blynyddoedd, mae'r cyngor ieuenctid wedi cyflawni amryw o brosiectau llwyddiannus sydd â'r nod o wella'r gymuned, cryfhau perthnasoedd, a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar lefel leol a sirol.
Mae'r grŵp yn mynd ati i weithio yn y gymuned i herio safbwyntiau negyddol o bobl ifanc trwy hwyluso prosiectau amrywiol, cwrdd a gweithio gyda gwneuthurwyr penderfyniadau a chymryd rhan yn y gymuned.
Dywedodd Bethany Roberts, Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc: "Mae llwyddiant y cyngor ieuenctid wrth rwyfo’n rhithwir i Iwerddon yn dangos eu hymroddiad i wneud gwahaniaeth o fewn y gymuned gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.
"Roedd y cyfuniad o rwyfo, codi arian, a chyfranogiad cymunedol yn gwneud yr her yn brofiad cofiadwy a gwerth chweil i bawb – roedden nhw’n anhygoel!"