Taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau yn dod i ben
Holiday free school meal payments to end
Ni fydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau a gyflwynwyd i ymateb i'r pandemig Covid-19 yn cael ei ymestyn ar ôl tair blynedd o gefnogaeth ychwanegol.
Mae'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Gymraeg, Owain Lloyd, wedi ysgrifennu at holl Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol i gadarnhau bod y penderfyniad ym mis Mawrth, mai dim ond tan hanner tymor ddiwedd mis Mai y bydd y cynllun yn cael ei ym, yn parhau’n ddigyfnewid.
Archwiliwyd opsiynau ar gyfer estyniad pellach yn llawn ond roedd cyfyngiadau cyllidebol yn golygu nad oedd yn bosibl.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod y cynllun yn boblogaidd gyda'r rheiny a oedd yn gymwys ac mae gwybodaeth ar ein gwefan i gynorthwyo unrhyw un sy'n cael trafferth gyda Chostau Byw.
O fis Medi ymlaen, bydd gan bob plentyn yn y sector Cynradd ddewis i Brydau Ysgol am Ddim Cyffredinol a bydd y gefnogaeth yn ystod y tymor i ddisgyblion Prydau Ysgol Am Ddim cymwys yn parhau.
Yr hyn a fydd yn cael ei gynnal yr haf hwn fydd Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) a fydd yn darparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, ynghyd â gweithgareddau corfforol a chyfoethogi mewn ysgolion.
Mae CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) yn rheoli'r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, ac mae £4.85 miliwn wedi cael ei ddyrannu yn 2023 ledled y wlad, a bydd nifer o ysgolion yn Sir Benfro yn cynnig 'Food and Fun – Bwyd a Hwyl'.
Yn 2022, roedd 139 o ysgolion yng Nghymru yn cyflwyno'r rhaglen ac yn darparu dros 7800 o leoedd i blant bob dydd y bu ar gael.
Yr haf hwn bydd 'Food and Fun – Bwyd a Hwyl' yn cael ei chynnal yn Ysgol Gynradd Gymunedol Coastlands, Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick, Ysgol Gymunedol Neyland ac Ysgol Gynradd Gymunedol Wdig.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae rhieni mewn ysgolion sy'n cymryd rhan wedi cael gwybod am sut i gymryd rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet ar gyfer Addysg a'r Gymraeg: "Croesawyd yr arian ychwanegol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim dros y tair blynedd diwethaf gan deuluoedd cymwys, ac rydym yn gwerthfawrogi eu bod yn parhau i wynebu anawsterau oherwydd costau byw cynyddol.
"Bydd Food and Fun – Bwyd a Hwyl yn rhoi cefnogaeth i lawer o blant yr haf hwn yn eu lleoliadau ysgol cyfarwydd.”