English icon English
Shop on Haverfordwest Bridge Street that has used paint scheme funding

Hwb i fusnesau wrth i gynllun paent ymestyn ymhellach

Boost for businesses as paint scheme extends further

Erbyn hyn, gall hyd yn oed mwy o fusnesau o ardaloedd Sir Benfro wneud cais am baent i roi sglein ar eu heiddo, diolch i gynllun Cyngor Sir Penfro.

Cafodd Prosiect Cynllun Paent Strydlun, sy’n rhan o Rhaglen Gwella Strydoedd y Cyngor, ei lansio’n gynharach yn y flwyddyn yn Aberdaugleddau.

Ei nod yw cefnogi busnesau i wella golwg eiddo canol y dref gan helpu i annog nifer yr ymwelwyr.

Cafodd y cynllun ei ymestyn i Hwlffordd ac yna i Abergwaun, Penfro, Doc Penfro ac yn ddiweddarach, Dinbych-y-pysgod.

Erbyn hyn, mae’n cael ei gyflwyno i ragor o strydoedd yn Nhyddewi, Arberth, Saundersfoot a Chrymych.

Yn Nhyddewi, bydd busnesau yn Nun Street, Heol Newydd, Sgwâr y Groes, y Stryd Fawr a’r Popls yn gymwys.

Yn Arberth, gall busnesau ar y Stryd Fawr, Sgwâr y Farchnad, Spring Gardens a St James Street wneud cais.

Bydd busnesau ar y Stryd Fawr, Cambrian Place, Milford Street, The Strand a Brewery Terrace yn Saundersfoot yn gymwys.

A bydd busnesau ar Stryd Fawr Crymych hefyd yn gallu gwneud cais.

Mae mwy o newyddion da hefyd, mae’r cynllun paent hefyd yn cael ei gynnig i fwy o strydoedd mewn rhai trefi sydd eisoes yn rhan o’r cynllun.

Yn Aberdaugleddau, gall busnesau yn y strydoedd canlynol wneud cais nawr hefyd: Robert Street, Hamilton Street, Stryd y Priordy.

Yn Hwlffordd, mae busnesau yn Victoria Place bellach yn gymwys.

Mae Prif Stryd Wdig yn ymuno â’r strydoedd cymwys ac yn Ninbych-y-pysgod, gall busnesau yn St Julians Street, Crackwell Street a Cresswell Street wneud cais nawr.

Bydd y gronfa’n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo.

Mae modd defnyddio grantiau ar gyfer prynu deunyddiau (paent preimio, côt isaf gwaith maen a phaent gwaith maen allanol) neu tuag at gost defnyddio contractwr.

Bydd y grantiau’n darparu 80 y cant o gyfanswm y gwariant cyfalaf a £4,999 fydd y grant mwyaf i bob eiddo. Rhaid cwblhau’r cynlluniau erbyn mis Tachwedd 2024.

Am yr wybodaeth lawn gan gynnwys manylion am gymhwysedd grant a dolen i wneud cais am y cynllun, ewch i

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.