bws

Lleihau gwasanaethau bysus oherwydd toriadau cyllid Llywodraeth Cymru a llai o deithwyr

Bus services to be reduced due to Welsh Government funding cuts and lower passenger numbers

Rhannu:

Bydd llwybr bysiau yn Sir Benfro yn cael ei effeithio gan doriadau sydd newydd eu cyhoeddi mewn gwasanaethau bysiau ledled gorllewin Cymru.

Bydd amlder llwybr 349 First Cymru yn gostwng o wasaneth bob awr i bob 90 munud yn ystod misoedd y gaeaf (o 29 Hydref ymlaen).

Mae'r llwybr yn gweithredu rhwng Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod trwy Johnston, Neyland, Doc Penfro, Penfro, Llandyfái, Hodgeston, Jameston, Maenorbŷr a Phenalun.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y byddai'r Cyngor Sir yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau.

"Un o'r pryderon mwyaf uniongyrchol yw'r effaith ar bobl Sir Benfro o ran cyrchu cyfleoedd am gyflogaeth," meddai.

"Yn sgil llai o wasanaethau bysiau, mae llawer o breswylwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran cyrraedd y gwaith ac mae'r sefyllfa hon yn bygwth nid yn unig sefydlogrwydd ariannol pobl a'u teuluoedd ond ffyniant economaidd y rhanbarth cyfan.

“Rydym yn derbyn bod hwn yn gyfnod ariannol anodd ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i ailystyried ei phenderfyniadau cyllido fel y gall trafnidiaeth gyhoeddus yma ac ar draws Cymru fod yn hygyrch, yn ddibynadwy ac yn hyfyw."

Mae pryderon wedi codi'n ddiweddar y gallai Ebrill 2024 weld llawer o ostyngiadau pellach yn lleol ac ar draws Cymru wrth i gymorthdaliadau ddod i ben.

Mae Cynllun Argyfwng Bysiau (BES) Llywodraeth Cymru a gefnogodd y diwydiant bysiau drwy bandemig Covid bellach wedi cael ei ddisodli gan y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau (BTF) gyda'i chyllideb wedi'i chapio ar £46m ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024.

Mae'r cyllid, gyda £4m ohono wedi'i neilltuo i Rwydwaith Traws Cymru, yn cael ei ddosbarthu'n uniongyrchol i weithredwyr bysiau ar draws 22 awdurdod lleol Cymru.

Dywedodd First Cymru mai’r gostyngiad yn ei gyllideb sydd wedi ei orfodi i gyhoeddi'r toriad i wasanaeth 349 yn Sir Benfro.

Gellir gweld amserlen newydd 349 cyn y newidiadau ar wefan First Cymru.