English icon English
Disgyblion Ysgol Bro Preseli yn hapus gyda'u canlyniadau

Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol

Congratulations to all picking up GCSE and vocational qualification results

Mae Cyngor Sir Penfro yn estyn llongyfarchiadau cynhesaf i bob dysgwr sy’n cael eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol heddiw (dydd Iau, 21 Awst).

Mae carfan eleni unwaith eto wedi dangos gwydnwch, penderfyniad a chyflawniad eithriadol ar draws ystod eang o bynciau.

Hwest High GCSE 2

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr aelod cabinet dros Addysg a’r Iaith Gymraeg:
“Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr. Mae eu cyflawniadau yn dyst i’w dyfalbarhad a’r rhwydweithiau cymorth cryf o’u cwmpas. Wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf, dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

Ysgol Bro Gwaun group

Ychwanegodd Steven Richards-Downes y Cyfarwyddwr Addysg: “Mae heddiw yn ddathliad o waith caled ac ymroddiad. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob dysgwr wrth iddynt symud ymlaen—boed i addysg bellach, prentisiaethau, neu i gyflogaeth. Mae Sir Benfro yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i helpu pobl ifanc i ffynnu.”

Anogir dysgwyr i archwilio’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn lleol, gan gynnwys y canlynol:
- Dosbarthiadau chwech a Choleg Sir Benfro, sy’n cynnig cyrsiau academaidd a galwedigaethol amrywiol.
- Prentisiaethau, sy’n darparu profiadau ymarferol a’r cyfle i ennill wrth ddysgu.
- Gyrfa Cymru, sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd wedi’u teilwra i helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.

Gan gydnabod y pwysau sy’n dod gydag arholiadau a chyfnodau pontio, mae Cyngor Sir Penfro hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar iechyd meddwl a llesiant.

Mae cefnogaeth ar gael drwy’r canlynol:
- Gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion
- Mentrau iechyd meddwl ieuenctid lleol
- Adnoddau a llinellau cymorth ar-lein
- Partneriaethau â sefydliadau fel Mind Cymru a YoungMinds

Ysgol Bro Preseli GCSE

Hwest High GCSE

Mae cymorth ar gael hefyd drwy SilverCloud GIG Cymru, sy’n cynnig rhaglenni ar-lein hyblyg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i helpu pobl ifanc i reoli straen, gorbryder a hwyliau isel. Gall myfyrwyr gofrestru yma

Rydym yn annog pob dysgwr i flaenoriaethu eu llesiant a chysylltu am gymorth pan fo angen. Nid yw llwyddiant yn dibynnu ar raddau’n unig—mae’n dod o deimlo’n hyderus, o deimlo eich bod yn cael eich cefnogi, ac o deimlo’n barod ar gyfer y dyfodol.

Harri Tudur GCSE