Llwybr celf newydd ar droed yn Abergwaun ac Wdig!
A new art trail is afoot in Fishguard and Goodwick!
Bydd llwybr cerfluniau newydd Art Afoot / Celf ar Droed fydd yn cysylltu Abergwaun ac Wdig yn cael ei lansio ar 15 Rhagfyr 2024.
Mae artistiaid lleol o'r rhanbarth wedi dylunio a saernïo'r gweithiau celf yn eu stiwdios. Mae'r llwybr hefyd yn cynnwys gwaith celf realiti estynedig y gall y gwyliwr ei weld yn y dirwedd gan ddefnyddio ffôn.
Mae'r daith yn defnyddio llwybrau presennol a gynhelir fel y llwybr pren ar Rhos Wdig, gwarchodfa bywyd gwyllt a'r Rhodfa Forol sy'n llwybr arfordirol hygyrch.
Bydd y gweithiau celf newydd hefyd yn cael eu gwasgaru ym mhlith gwaith celf a henebion treftadaeth presennol ac yn adrodd straeon treftadaeth y ddwy dref wrth ddathlu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt unigryw yr ardal.
Bydd map wedi'i dynnu a'i ddarlunio â llaw yn tywys cerddwyr ar hyd y gwahanol lwybrau dewisol a bydd gwefan yn rhoi rhagor o fanylion am y gwaith celf, yr artistiaid a fersiwn ddigidol o'r map.
Mae chwe cherflun newydd ac wyth gwaith celf realiti estynedig wedi'u comisiynu yn ogystal â chyfres o arwyddnodau wedi'u haddurno. Bydd bwâu cerfluniol a grëwyd gan Bill Hamblett yn nodi cyfeiriadau allweddol llwybr ac yn dathlu bywyd gwyllt a threftadaeth leol.
Bydd y digwyddiad lansio yn dechrau am 2pm yn Ocean Lab, Wdig Ddydd Sul, 15 Rhagfyr a bydd yr artistiaid yn arwain taith gerdded dywysedig ar hyd un o'r llwybrau.
Mae croeso i bawb, mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i'r teulu a bydd y llwybr yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr: "Bydd y prosiect arloesol hwn yn dod â hanes cyfoethog Abergwaun ac Wdig yn fyw trwy gelf ffisegol a rhithwir i bob un ohonom ei fwynhau. Mae'n argoeli i fod yn brofiad diddorol iawn, nid yn unig i'r rhai sy'n ymweld â'r ardal ond hefyd i'r rhai sydd eisoes yn byw yn y rhan hardd hon o Sir Benfro."
Bydd ceffyl môr anhygoel, pum metr o hyd, wedi'i wneud o ddur gwrthstaen, a grëwyd gan yr artist Gideon Peterson o Sir Benfro, yn sefyll wrth fynedfa'r Rhodfa Forol, yn edrych dros draeth Wdig a Harbwr Abergwaun.
Mae llawer o'r gweithiau celf yn rhyngweithiol neu'n ginetig fel haig o bysgod sy'n cael ei bweru gan wynt a chaleidosgop enfawr yn arddangos darluniau plant lleol yn Wdig Parrog, a wnaed gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hadennill gan yr artistiaid Toby Downing a Ben Cramp.
Ysbrydolwyd cerflun chwaraeus wedi'i baentio â llaw o Jemima Nicholas, a grëwyd gan Ann Shrosbree ac wedi ei phaentio gan Sarah Hope, yn wreiddiol o lun gan berson ifanc ac mae profiad ymgolli realiti estynedig ar gael i wylwyr gyda gweithiau celf gan Seán Vicary a Steve Knight.
Mae'r ardal yn adnabyddus am ei chelfyddydau a diwylliant a'r llwybrau hyn yw'r amlygiad diweddaraf o hyn. I'r rhai sy'n dwlu ar ddiwylliant yn ogystal â golygfeydd arfordirol trawiadol a bywyd gwyllt, mae hwn yn gyfuniad delfrydol.