Llwybr Pwll Castell Penfro ar gau ar gyfer uwchraddiadau
Pembroke Castle Pond link to close for upgrades
Bydd llwybr Pwll y Castell ar gau ar hyd ei ochr ogleddol o ddiwedd y mis tra bydd Cyngor Sir Penfro yn gosod rheiliau newydd.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 29 Ionawr am 21 diwrnod i ddechrau. Bydd y llwybr ar gau er diogelwch y cyhoedd o ben deheuol yr argae i fynedfa Rocky Park a Corn Store wrth i‘r gwaith fynd yn ei flaen.
Bydd glan y cei gyferbyn â Chastell Penfro yn aros ar agor er mwyn i fusnesau barhau yn ôl yr arfer.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflwyno Tai a’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Jon Harvey: “Mae’n braf gweld y rheiliau hyn yn cael eu gosod, ond rydym yn ymwybodol bod y llwybr hwn yn un poblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio’n fawr, felly bydd cau’r ffordd yn achosi rhywfaint o darfu.
“Rydym yn credu y bydd y cau er diogelwch yn werth chweil pan fydd y rheiliau newydd wedi’u gosod er budd yr holl ddefnyddwyr a hoffem ddiolch i’r preswylwyr am eu hamynedd.”