Llwyddiant i Dîm Gorfodi Cynllunio y Cyngor wrth i strwythur anghyfreithlon gael ei ddymchwel
Success for Council’s Planning Enforcement Team as illegal structure is demolished
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymryd camau uniongyrchol i gael gwared ar strwythur a adeiladwyd yn erbyn adeilad rhestredig cymydog heb ganiatâd.
Adeiladodd Paul Mason y strwythur heb ganiatâd cynllunio na chaniatâd adeilad rhestredig gan y Cyngor yn groes i adran 43 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
O ganlyniad, cyhoeddodd y Cyngor Hysbysiad Gorfodi Adeiladau Rhestredig ar 17 Mehefin 2021.
Roedd yr hysbysiad yn ymwneud ag 'adeiladu strwythur allanol o flociau wedi’i rendro o fewn cwrtil 1, Old Newport Road, Abergwaun, Sir Benfro, a gosod yr adeilad hwn ynghlwm â’r eiddo cyfagos yn 1, Glyn-y-Mel Road, Tref Isaf, Abergwaun.'
Roedd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i ddymchwel yr adeilad allanol a symud yr holl ddeunyddiau o ganlyniad i wneud hynny o'r safle ac adfer wal derfyn talcen 1, Glyn-y-Mel Road, i'w chyflwr blaenorol o fewn tri mis.
Apeliodd Mr Mason yn ei erbyn ond fe wnaeth Arolygydd Cynllunio o Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wrthod yr apêl wedi hynny gan gadarnhau hysbysiad gorfodi'r Cyngor ar 22 Rhagfyr 2022.
Roedd yr Arolygydd o’r farn bod yr adeilad allanol yn cael effaith niweidiol ar gymeriad arbennig a lleoliad yr adeiladau rhestredig a bod angen ei symud i adfer cymeriad pensaernïol yr adeilad rhestredig i'w gyflwr blaenorol.
Ar ôl yr apêl, daeth y Cyngor ag erlyniad am beidio â chydymffurfio â gofynion yr Hysbysiad.
Plediodd Mr Mason yn euog ar ddiwrnod yr achos ar 7 Rhagfyr 2023 ac roedd yn ofynnol iddo dalu dirwy, costau a gordal dioddefwr.
Yn dilyn erlyniad, methodd y perchennog â dymchwel yr adeilad allanol ac felly camodd Tîm Gorfodi Cynllunio y Cyngor i'r adwy a chymryd camau uniongyrchol drwy gontractwyr i gael gwared ar yr adeilad allanol anghyfreithlon.
Tynnwyd yr adeilad allan ar 6 Mawrth 2024 ac adferwyd cymeriad pensaernïol yr adeilad rhestredig.
Bydd cost dymchwel yr adeilad yn cael ei gasglu gan Mr Mason.
Yn dilyn y camau gorfodi, dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai: "Mae'n drist bod yn rhaid i'r sefyllfa hon gyrraedd y pwynt hwn a dyma'r tro cyntaf ers dros 10 mlynedd i'r Cyngor gael ei orfodi i weithredu'n uniongyrchol.
"Fodd bynnag, roedd hi'n amlwg nad oedd y diffynnydd yn fodlon cydymffurfio â thelerau'r hysbysiad gorfodi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei dynnu oddi yno felly rydym wedi cymryd y camau angenrheidiol.
"Diolch i'n timau a fu’n cymryd rhan, gan gynnwys Swyddogion Gorfodi Cynllunio a Chyfreithiol a gobeithio bod y camau hyn yn dangos ein hymrwymiad i orfodi achosion o dorri rheolau cynllunio a chynnal uniondeb y broses o wneud penderfyniadau."