English icon English
Claire Garland gyda'i land rover cacen gaws

Llwyddiant melys: Cwmni cacennau caws yn sicrhau grant i ennill darn mwy o’r farchnad

Sweet Success: Cheesecake company secures grant to win bigger slice of market

Mae cwmni cacennau caws moethus lleol yn lledu ei esgyll a chyrraedd cwsmeriaid newydd, diolch i gyllid grant a chymorth gan dîm busnes Cyngor Sir Penfro.

Ffurfiwyd Pembrokeshire Cheesecake Company pan ddechreuodd Claire Garland wneud cacennau caws i’w ffrindiau a’i hanogodd i droi ei hobi’n fusnes. 

Roedd sefydlu ei busnes yn ei chartref yn Herbrandston yn golygu bod Claire yn gallu cyfuno ei menter newydd â gofalu am ddau blentyn ifanc.

Dywedodd: “Fe dyfodd yn gyflym iawn. Fe ddechreuodd o ddifrif. Mae’n rhywbeth rydw i wir yn ei fwynhau ac mae pobl fel petaen nhw’n dwlu arno. Mae’r busnes yn golygu ’mod i’n gallu gweithio o amgylch fy nheulu.”

Mae Claire wedi perffeithio ei rysáit unigryw i greu cacennau caws moethus mewn amryw ffurfiau, gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd da yn ei chacennau caws cyfan, potiau unigol, toesenni a jariau, sy’n dritiau ac anrhegion poblogaidd.

Mae hi’n cyflenwi nifer gynyddol o siopau lleol, yn ogystal â chreu cacennau caws unigryw ar gyfer priodasau ac achlysuron arbennig eraill.

Roedd cymorth gan dîm busnes Cyngor Sir Penfro, a gynigiodd grant twf gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, sy’n rhan o raglen Ffyniant Bro’r Llywodraeth, wedi galluogi Claire i osod uned oeri hanfodol yng nghefn ei Land Rover Defender llygad-dynnol.

Dywedodd Rachel Moxey, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Roedden ni’n falch iawn o allu cynorthwyo Claire a helpu i agor llwybrau newydd ar gyfer ei chacennau caws rhyfeddol. Mae’n wych gweld busnes lleol yn mynd o nerth i nerth.”

Bydd yr uned newydd yn caniatáu i Claire deithio ymhellach ac aros a masnachu am gyfnodau hwy. Mae hi eisoes yn edrych ymlaen at fynychu amryw wyliau, marchnadoedd a sioeau drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd: “Mae wedi newid y busnes yn sylweddol. Dyma’r flwyddyn gyntaf y gallaf fynd i ddigwyddiadau deuddydd, gan fod gen i uned storio ddibynadwy, bellach. Gallaf ei phlygio i mewn i’r prif gyflenwad pan fyddaf yn cyrraedd.

“Bydd yn helpu fy musnes i dyfu. Mae wedi agor y llifddorau, mewn gwirionedd.”

Bydd yr uned newydd, y mae ei thymheredd yn cael ei rheoli, a osodwyd gan arbenigwr ym mis Rhagfyr, yn caniatáu i Claire deithio am gyfnodau hwy, gan agor cyfleoedd newydd i hyrwyddo a gwerthu ei chynhyrchion.

Ychwanegodd Claire ei bod yn synnu pa mor hawdd oedd y broses ymgeisio am grant busnes.

“Roedd yn syml iawn. Ni allaf ddiolch i’r Cyngor digon.”

Mae Claire, sy’n aelod balch o gynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro, yn edrych ymlaen at fynychu’r sioe fasnach bwyd a diod Cyflenwr i Brynwr yn yr Ardd Fotaneg ar 13 Mawrth. Trefnir y digwyddiad mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cywain a Chroeso Sir Benfro.

Funded by UK Govt logo
Ffyniant bro glas dwyieithog