English icon English
llyfrgell dewi sant

Llyfrgell y ddinas nawr ar agor ar ddydd Sadwrn

City library now open on Saturdays

Diolch i ymgyrch lwyddiannus i ddenu gwirfoddolwyr i redeg llyfrgell Tyddewi ar foreau Sadwrn, bydd y cyfleuster ar agor i’r gymuned leol ei fwynhau.

Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio cyfleusterau’r llyfrgell rhwng 10am a 12pm bob dydd Sadwrn o 6 Ebrill 2024.

Gallwch ddychwelyd, benthyca, adnewyddu, neilltuo eitemau a defnyddio’r cyfrifiadur yn ystod yr oriau hyn, sy’n ychwanegol at oriau agor arferol Llyfrgell y Ddinas, sef ddydd Mawrth a dydd Iau (10am-1pm a 2pm-5pm).

Mae’r Llyfrgell, sydd wedi’i lleoli yn Neuadd y Ddinas, y gyntaf ar y dde wrth i chi fynd i mewn i’r adeilad.

Dywedodd Cydlynydd Safle Llyfrgell Tyddewi, Tracey Johnson:

"Mae agor gyda gwirfoddolwyr ar ddydd Sadwrn wedi bod yn llwyddiant yn y gorffennol, gan ei fod yn denu teuluoedd a gweithwyr dydyn nhw ddim yn gallu defnyddio’r cyfleuster yn yr wythnos. Mae hyn yn newyddion gwych ac allwn ni ddim aros i groesawu’n cwsmeriaid ddydd Sadwrn."

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno’i enw i fod yn wirfoddolwr gysylltu â Tracey ar 01437 776638 neu tracey.johnson@pembrokeshire.gov.uk