English icon English
Milford Haven waterway - Dyfrffordd Aberdaugleddau

Mae angen barn y cyhoedd ar y cynllun sy'n goruchwylio datblygiad yn Sir Benfro cyn ei gwblhau

Plan overseeing development in Pembrokeshire needs public views before completion

Mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a fydd yn darparu canllawiau trosfwaol ar gyfer datblygiadau tan 2033.  Bydd yn cynnwys ardal Sir Benfro ac eithrio'r Parc Cenedlaethol.

Mae ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo 2 wedi cael ei baratoi yn dilyn canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau ffosffad a’r oedi a achoswyd gan bandemig Covid-19 mewn perthynas â’r cynllun yr ymgynghorwyd arno’n flaenorol.

Mae ymgynghoriad ar yr ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo 2 hwn yn cael ei gynnal rhwng 21 Hydref 2024 a 16 Rhagfyr 2024, a fydd yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd gefnogi neu wrthwynebu’r cynllun.

Nid yw’n bosibl bwrw ymlaen ag unrhyw sylwadau a wnaed ar y Cynllun Datblygu Lleol Adnau 2 cyntaf.

Mae’r ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo 2 (y Cynllun) yn nodi angen am 5,840 o gartrefi newydd rhwng 2017 a 2033 (365 y flwyddyn), gan gynnwys 2,000 o gartrefi fforddiadwy.   

Cynghorir trigolion i edrych ar destun y cynllun a’r mapiau i weld cynigion yn eu hardal.  Mae'r cynllun yn cynnig ffiniau diwygiedig ar gyfer trefi a phentrefi (a elwir yn ffiniau aneddiadau) ac mae ystod o safleoedd yn cael eu dyrannu (eu nodi) ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, gan gynnwys 54 o safleoedd ar gyfer tai. 

Bydd y cynllun yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf ar draws ardal y cynllun mewn aneddiadau gwledig yn ogystal â threfol.  Dylai hyn alluogi twf cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith. 

Mae’r cynllun yn cynnig cyflwyno safonau gofod i helpu i ddiogelu cartrefi at y dyfodol, gan eu gwneud yn hyblyg ac yn addasadwy.

Mae'r cynllun yn nodi ystod o safleoedd diwydiannol (a elwir yn safleoedd cyflogaeth strategol) sy'n cyflwyno cyfleoedd sy'n gysylltiedig â busnesau presennol, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer buddsoddiad newydd ar raddfa fawr. Mae safleoedd cyflogaeth lleol hefyd yn cael eu nodi, i gefnogi twf cyflogaeth lleol. Nodwyd estyniad i safle chwarel presennol ar gyfer gwaith mwynau newydd.

Mae'r cynllun yn ceisio ymateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd trwy gynnwys polisïau a dynodiadau i warchod safleoedd a rhywogaethau sy'n bwysig oherwydd eu diddordeb bioamrywiaeth a chadwraeth natur, mannau agored, a lletemau glas. Mae twf newydd yn cael ei gyfeirio at leoliadau cynaliadwy. Mae cynigion ar gyfer defnyddiau bregus yn cael eu cyfeirio i ffwrdd o ardaloedd lle mae perygl llifogydd, a bydd datblygiadau newydd yn cael eu cyfyngu mewn ardaloedd sydd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Bydd yr holl anheddau newydd yn cael eu hadeiladu i ddyluniadau ynni effeithlon o ansawdd uchel a byddant yn cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn. Nodir dau safle ar gyfer araeau solar ffotofoltäig. 

Mae’r cynllun a’r dogfennau cysylltiedig ar gael i’w gweld ar wefan y cyngor yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/adolygur-cynllun-datblygu-lleol/adneuo  

Mae copïau papur hefyd ar gael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ac mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod oriau agor arferol. 

  • E-bostiwch eich ffurflenni sylwadau i ldp@pembrokeshire.gov.uk neu postiwch nhw i’r Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman’s Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos ar 16 Rhagfyr 2024.
  • Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

Lleoliad 

Dyddiad

Canolfan Hamdden Crymych, 3pm – 6pm  

Dydd Llun, 21 Hydref

Canolfan Hamdden Aberdaugleddau, 3pm – 6pm

Dydd Mawrth, 22 Hydref

Canolfan Gymunedol Tredemel, 3pm – 6pm

Dydd Mercher, 23 Hydref

Canolfan Hamdden Abergwaun, 3pm – 6pm

Dydd Gwener, 25 Hydref

Archifdy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, 3pm – 6pm

Dydd Llun, 4 Tachwedd

Swyddfeydd Cyngor Tref Doc Penfro, Dimond Street, 3pm – 6pm

Dydd Mawrth, 5 Tachwedd

Neuadd y Dref Penfro, 3pm – 6pm

Dydd Gwener, 8 Tachwedd