Mae angen eich help ar Dîm Adsefydlu a Mudo Cyngor Sir Penfro...
Pembrokeshire County Council’s Resettlement and Migration Team needs you…
Mae hi ychydig dros ddwy flynedd ers i Wcráin gael ei goresgyn, ac nid yw’r sefyllfa wedi gwella digon i alluogi teuluoedd i ddychwelyd ac ailsefydlu eu bywydau a’u cartrefi.
Rydyn ni’n gofyn eto i bobl Sir Benfro gynnig cartrefi i deuluoedd o Wcráin a’n cefnogi ni i helpu ymdrechion Cymru: Cenedl Noddfa dros ffoaduriaid.
Rydym yn gwybod bod diffyg llety fforddiadwy yn Sir Benfro ac nid ydym eisiau rhoi pwysau ychwanegol ar y sector hwn. Dyna pam mae’n hanfodol bwysig ein bod yn defnyddio trefniadau lletya i gefnogi teuluoedd Wcráin.
Mae gan Gyngor Sir Penfro 52 o westeiwyr, sy’n parhau i gynnig caredigrwydd a chefnogaeth hael i 113 o bobl o Wcráin.
Mae teuluoedd o Wcráin yn hynod ddiolchgar o allu ceisio noddfa, sefydlu bywyd a pharhau i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd tan ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd adref.
Dywedodd un sy’n cael llety yn Sir Benfro: "Hoffwn i fynegi fy niolch diffuant i lywodraeth y DU, cymuned leol Sir Benfro, a fy ngwesteiwyr hyfryd am eu cefnogaeth a’u cymorth yn y cyfnod anodd hwn i bobl o Wcráin.
"Mae’r cyngor lleol bob amser yn rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnaf ac yn fy helpu i ddatrys problemau amrywiol.
"Dylai gael ei nodi fy mod i’n lwcus iawn gyda fy ngwesteiwyr, rwy’n teimlo’n ddiogel yn eu cartref, ac maen nhw bob amser yn hapus i roi cyngor a chymorth. Maen nhw’n fwy na gwesteiwyr i mi, maen nhw wedi dod yn ffrindiau i mi."
Ychwanegodd un arall: "Diolch am gadw mewn cysylltiad bob amser, ac am fod yn barod i fy helpu i a fy mhlant bob amser. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi cael cefnogaeth o’r fath yn eich gwlad."
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun Cartrefi i Wcráin, ac mae ein tîm yn chwilio am ragor o westeiwyr a all agor eu calonnau a’u cartrefi i gynnig lle diogel i fyw ar gyfer teuluoedd o Wcráin.
O dan Gynllun Cartrefi i Wcráin, mae gan westeiwyr yr hawl i daliad diolch, di-dreth o £500 bob mis y mae rhywun o Wcráin yn byw gyda nhw.
Mae angen llety mwy o faint i roi cartref i deuluoedd sydd wedi’u haduno ac rydyn ni’n chwilio am ragor o lety â dwy ystafell wely neu’n fwy. Os yw hyn yn ymyl unrhyw un o drefi Sir Benfro neu’n agos at rwydweithiau trafnidiaeth, yna byddai hynny’n ddymunol.
Os ydych chi’n teimlo y gallech agor eich cartrefi, i deulu o Wcráin, cysylltwch â 01437 776301 neu ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk a bydd y tîm yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn esbonio’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i’n gwesteiwyr er mwyn datblygu perthynas letya gref.
Mae llawer o’n gwesteiwyr wedi bod yn rhoi cartref am flwyddyn neu fwy ac yn ddiweddar cynhaliodd y Cyngor ddigwyddiad i’n gwesteiwyr fel ffordd o ddiolch am eu cefnogaeth barhaus. Gwnaethom ofyn iddyn nhw am adborth a chawsom sylwadau hyfryd:
"Mae hi mor hanfodol gallu cysylltu â phobl o’r cyngor sir i ofyn am help neu gyngor pan fo angen. Rydyn ni wedi gweld bod y tîm yn Sir Benfro yn sicrhau eu bod ar gael, gan ddarparu cymorth pan fo angen. Tîm da o bobl sydd i’w gweld yn gweithio’n dda gyda’i gilydd".
Ychwanegodd un arall: "Rydyn ni’n falch iawn o allu helpu, mae ein gwesteiwyr yn hyfryd ac yn gweithio’n galed... roedd y gefnogaeth a gawsom gan Sir Benfro yn anhygoel."