Overall winner Carys Meiring of Ysgol Hafan y Môr, and open winners L-R: Miranda Morgan, Mari Broomfield, Finn Hickman & Evelyn James, Osian Kite (open woodwind), Aled Hooper,Carys Meiring (open brass), Cadi Marshall-Jones, Philippa Roberts

Mae cerddoriaeth yn yr aer wrth i’r nifer mwyaf erioed ymuno â digwyddiad i ysgolion

Music in the air as record numbers join school event

Rhannu:

Yn ddiweddar cymerodd y nifer mwyaf erioed o blant oedran cynradd o bob cwr o Sir Benfro ran yng Ngŵyl Cerddoriaeth Gynradd Valero.

Croesawodd Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro bron i 600 o gerddorion ifanc i rannu eu doniau cerddorol â chynulleidfa a fu wrth eu bodd yn Ysgol Caer Elen ddydd Sadwrn 14 Mawrth.

Coronwyd Carys Meiring, disgybl yn Ysgol Hafan y Môr, yn enillydd cyffredinol yr ŵyl eleni, yn dilyn perfformiad gwych o ‘Let’s call the whole thing off’ ar y trombôn. Yn gynharach yn y dydd roedd Carys wedi dod i’r brig yn y dosbarth pres agored.

MusicFestival2

Agorwyd y gyngerdd ‘sbotolau’ gyda bang yn y prynhawn wrth i chwaraewyr ifanc o ensembles Ail Gamau o bob cwr o’r sir ymuno i berfformio gyda’i gilydd.

Roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion a oedd wedi dod i’r brig yn y dosbarthiadau agored yn gynharach yn y dydd.

Enillwyd y dosbarth chwythbrennau agored gan Osian Kite o Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn, a berfformiodd ‘Sentimental Serenade’ ar y sacsoffon alto.

Cadi Marshall-Jones o Ysgol Bro Preseli oedd enillydd y dosbarth piano a thelyn agored. Perfformiodd ‘Over the sea to Skye’ ar y delyn.

Enillwyd yr unawd llinynnau agored gan y sielydd o Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn, Mari Broomfield, a berfformiodd ‘Vamoose.’

Aled Hooper, disgybl o Ysgol Caer Elen, oedd enillydd y dosbarth offerynnau taro agored. Perfformiodd ‘Are you gonna go my way’ ar git drymiau.

Enillwyr yr ensemble agored oedd deuawd piano Tafarn-sbeit, Finn Hickman ac Evelyn James, a roddodd berfformiad hyfryd o ‘Passacaglia’ gan Handel.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, Philippa Roberts: “Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro yn falch o gyflwyno Gŵyl Gerddoriaeth Valero, gan gynnig cyfle cerddorol cyffrous i bron i 600 o berfformwyr ifanc o bob cwr o’r sir.

“Mae rhoi cyfle i blant berfformio, disgleirio, a chael adborth cefnogol gan gerddorion proffesiynol yn hynod bwerus ac yn helpu i feithrin hyder parhaus. Yn unol â Chynllun Cerddoriaeth Cymru, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu profiadau cerddorol ystyrlon i blant ledled Sir Benfro. Rydym am ddiolch yn ddiffuant i Valero am eu cefnogaeth wych wrth wneud y dathliad hwn o dalent ifanc yn bosibl.”

Yn y llun gwelir yr enillydd cyffredinol, Carys Meiring o Ysgol Hafan y Môr, ac o’r chwith i’r dde yr enillwyr agored: Miranda Morgan (cydlynydd cerddoriaeth), Mari Broomfield (llinynnau agored), Finn Hickman ac Evelyn James (ensemble agored), Osian Kite (chwythbrennau agored), Aled Hooper (offerynnau taro agored), Carys Meiring (pres agored), Cadi Marshall-Jones (piano a thelyn agored) a Philippa Roberts (Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro). 

Canlyniadau Cynradd Valero 2026

Chwythbrennau

Gradd 1

Cyntaf – Iolo Thomas, Ysgol Bro Ingli

Ail – Sophie Gladstone, Redhill

Trydydd – Harley Sandell, Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston

Gradd 2

Cyntaf – Mia John, Ysgol Mair Ddihalog

Ail – Maiya Cunliffe, Bro Cleddau

Trydydd – Alexa Baldry, Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau

Canmoliaeth uchel – Tomos Morgans, Ysgol Brynconin

Chwythbrennau agored

Cyntaf – Osian Kite, Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn

Ail – Phoebe Rees, Coastlands

Trydydd – Toby Barn, Johnston

Pres

Gradd 1

Cyntaf – Wilff Slade-Davies, Llanychllwydog

Ail – Clara Morgan, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod

Trydydd – Mabli Evans, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod

Canmoliaeth uchel – Steffan Hughes, Croes-goch a Finlay Ashby, Ysgol Glannau

Gwaun

Gradd 2

Cyntaf – Noah Lewis, Wdig

Ail – Chester Price, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod a Will Picton, Gelliswick

Pres agored

Cyntaf – Carys Meiring, Ysgol Hafan y Môr

Ail – Iolo Sims, Ysgol Caer Elen a Henry Slade-Davies, Llanychllwydog

Trydydd – Phoebe Jones, Ysgol Hafan y Môr

Canmoliaeth uchel – T J Stewart, Ysgol Glannau Gwaun ac Aria White, Llanusyllt

Llinynnau

Gradd 1

Cyntaf – Suki-Rose Heulwen, Ysgol Bro Penfro

Ail – Mila Bowen, Ysgol Glannau Gwaun

Trydydd – Edward Batchelor, Ysgol Caer Elen

Canmoliaeth uchel – Lennox Smith, Ysgol Mair Ddihalog

                                  Layla Astour, Ysgol Glannau Gwaun

                                 Lydia Richards, Ysgol San Marc

Llinynnau agored

Cyntaf – Mari Broomfield, Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn

Ail – Denisa Rusu, Llanusyllt

Trydydd – Alice Ng, Ysgol Caer Elen

Piano a thelyn

Piano Gradd 1

Cyntaf – Maiya Cunliffe, Bro Cleddau

Ail – Carys James, Maenclochog

Trydydd – Evelyn Ward, Ysgol Bro Preseli

Canmoliaeth uchel – Lily Rose Burrows

Telyn Gradd 1

Cyntaf – Lyla Wapner Carter, Ysgol Caer Elen

Ail – Carys Owen, Ysgol Ger y Llan

Trydydd – Amber Hartt, Arberth a Mabli Richmond, Ysgol Bro Preseli

Piano Gradd 2

Cyntaf – Evelyn James, Tafarn-sbeit

Ail – Michael Aulehla-Atkin, Ysgol Caer Elen

Trydydd – Carys Meiring, Ysgol Hafan y Môr        

Canmoliaeth uchel – Euan Fukuda-James, Arberth

Telyn Gradd 2

Cyntaf – Efa John, Maenclochog

Ail – Ethan Dunkeld, Cilgerran

Trydydd – Ruby Robinson, Ysgol Caer Elen

Canmoliaeth uchel – Freya Kitchell, Croes-goch

Piano agored a thelyn

Cyntaf – Cadi Marshall-Jones, Ysgol Bro Preseli

Ail – Alice Thomas, Ysgol Sant Oswald

Trydydd – Seth Morris, Croes-goch

Canmoliaeth uchel – Theia Tiller, Ysgol Bro Ingli

Offerynnau taro

Cit drymiau Gradd 1

Cyntaf – Luca Rebiga, Llanusyllt

Ail – Indy Saunders, Ysgol Penrhyn Dewi

Trydydd – Albie Jenkins, Maenclochog

Canmoliaeth uchel Florence Titley, Coastlands

                        Rafferty Gale, Ysgol Penrhyn Dewi

                                  Griff McFarlane, Ysgol Caer Elen                  

                        Destiny Leigh, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod

Cit drymiau agored

Cyntaf – Aled Hooper, Ysgol Caer Elen

Ail – Ollie Holloway, Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn

Trydydd – Emmie Fisherty, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod

Canmoliaeth uchel – Edward Batchelor, Ysgol Caer Elen

                                  Beth Slowgrove, Prendergast

                                  Alexis Bicknell, Prendergast

Ensembles

Cyntaf – Deuawd piano Tafarn-sbeit (Finn Hickman ac Evelyn James)

Ail – Deuawd ffliwt Tredemel (Eleanor Canney a Jessica Lambert)

Trydydd – Cerddorfa Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot