Y Cynghorwyr Bethan Price a Jon Harvey gyda chontractwyr ar safle adeiladu Glasfryn

Mae gwaith wedi dechrau ar gartrefi Cyngor newydd yn Nhyddewi

Work has started on new Council homes in St Davids

Rhannu:

Mae'r contract ar gyfer adeiladu saith byngalo newydd yn Nhyddewi wedi'i drosglwyddo i ddatblygwr preifat, GRD Limited, i ddatblygu ar ran y Cyngor.

Bydd cam cyntaf prosiect dau gam yn Glasfryn, Tyddewi, yn golygu y bydd tri chartref un ystafell wely a phedwar tŷ dwy ystafell wely yn cael eu hadeiladu.

Bydd y byngalos yn eiddo ynni-effeithlon ac wedi'u hadeiladu i fanyleb EPC A gan gynnwys paneli solar i gynorthwyo tenantiaid gyda chostau rhedeg.

Yn ail gam y datblygiad bydd 11 byngalo arall yn cael eu hadeiladu ar gyfer Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd Y Cynghorydd Jon Harvey Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflwyno Tai: "Rydym ni’n falch iawn o weld gwaith yn mynd rhagddo ar y datblygiad tai hwn yn Nhyddewi lle mae'r galw am gartrefi newydd o'r math hwn yn uchel.

"Y cynllun hwn yw'r diweddaraf yng nghynlluniau'r weinyddiaeth hon i gynyddu faint o dai Cyngor sydd ar gael, sy'n flaenoriaeth allweddol i'r Awdurdod."

seiliau Glasfryn

Ychwanegodd yr Aelod Lleol dros Dyddewi, y Cynghorydd Bethan Price: "Mae'r datblygiad newydd o dai fforddiadwy ar safle Glasfryn yn bwysig iawn i Dyddewi a'r ardal gyfagos.

"Mae'r diffyg tai fforddiadwy ar y penrhyn hwn, ac yn Sir Benfro, yn uchel ac rwyf fi mor falch o weld dechrau cam un gan y bydd yn rhoi gobaith i bobl sydd angen tai fforddiadwy yn enbyd."

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar housingCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu edrychwch ar dudalen Facebook Tai.