English icon English
Newport Pembs

Diweddariad ynghylch Tai Gwarchod Maes Ingli

Maes Ingli Sheltered Housing Update

Mae cynllun i ddarparu tai gwarchod newydd ar gyfer pobl hŷn yn Nhrefdraeth wedi cymryd cam ymlaen.

Bydd datblygiad tai Maes Ingli gan Gyngor Sir Penfro, ar ôl ei gwblhau, yn darparu cyfuniad o fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely mewn adeilad tai gwarchod newydd yn Nhrefdraeth, ynghyd â mannau cymunedol ar gyfer preswylwyr.

Yn y cam diweddaraf, mae dyluniadau cysyniadol cychwynnol ar gyfer y cynllun wedi’u cyflwyno i Dîm Datblygu Tai’r Cyngor, yn dilyn penodi ymgynghorydd dylunio amlddisgyblaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai:

“Mae penodi’r ymgynghorwyr amlddisgyblaethol (Gleeds) gan y Cyngor yn gam sylweddol ymlaen o ran cyflenwi’r cynllun llety gwarchod hwn, y mae mawr ei angen, yn Nhrefdraeth.

“Er y bu rhywfaint o oedi yn rhaglen gyflenwi’r cynllun hwn, mae dealltwriaeth ac amynedd y gymuned a’r tenantiaid sy’n dychwelyd wedi’u gwerthfawrogi’n fawr.

“Mae Maes Ingli yn un o nifer o ddatblygiadau tai arfaethedig gan y Cyngor, ac mae’r weinyddiaeth hon wedi ymrwymo i’w cyflawni, a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y Sir.”

Bydd y cynllun hwn yn darparu adeilad tai gwarchod newydd i bobl hŷn a fydd yn cynnwys tua 19 o fflatiau, er bod opsiynau ar y niferoedd terfynol yn parhau i gael eu harchwilio.

Bydd yr adeilad newydd hwn yn cynnwys cyfuniad o fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely, gan ddarparu cartrefi hunangynhwysol ar gyfer byw’n annibynnol, ynghyd â mannau cymunedol i breswylwyr, ac yn ogystal, mae opsiwn yn cael ei ystyried ynghylch ystafell ddigwyddiadau amlbwrpas ar gyfer defnydd posibl gan y gymuned.

Yn ystod y misoedd nesaf, cynhelir digwyddiad ymgysylltu cymunedol, a gwahoddir y gymuned i gwrdd â’r tîm datblygu, gweld cynlluniau cysyniadol, holi cwestiynau, a darparu adborth gwerthfawr y gallwn ei ystyried yn y dyluniadau terfynol.

Bydd y dyluniad, yn y dull adeiladwaith yn gyntaf, yn ymdrechu i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni gan gyflawni cartrefi cysurus â chostau rhedeg is. Bydd yr adeilad yn bodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru a Gofynion Cartrefi Gydol Oes, gan ddarparu cartrefi a fydd yn bodloni anghenion preswylwyr yn hwyrach mewn bywyd, yn ogystal â pharchu tirwedd hanesyddol yr ardal ar yr un pryd.

Bydd gwaith tirlunio hefyd yn sicrhau bod y datblygiad yn gydnaws â chymuned Trefdraeth ac y ceir mynediad i amwynderau. Bydd ystyriaeth i fioamrywiaeth a gofynion draenio cynaliadwy yn cael ei chynnwys wrth blannu mannau cymunedol a mannau gwyrdd.

Bydd cam nesaf y datblygiad hwn (Dyluniad Cysyniadol) yn rhoi rhagor o eglurder i’r prosiect, a bydd yn cynnwys yr asesiad cychwynnol o seilwaith cyfleustodau.

Yn amodol ar gyflwyniad cynllunio ac ystyriaeth yn ystod gwanwyn/dechrau haf 2024, y gobaith yw y bydd y datblygiad hwn yn cael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2025.

  • Gallwch ddilyn Cyfryngau Cymdeithasol Gwasanaethau Tai CSP am ddiweddariadau pellach ynghylch y datblygiad. Ewch i facebook.com/PCCHousing