English icon English
Maethu

Maethu Cymru Sir Benfro yn tynnu sylw at fanteision maethu gyda’ch awdurdod lleol

Foster Wales Pembrokeshire highlights benefits of fostering with your local authority

“Mae ein profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael gan Maethu Cymru Sir Benfro yn llawer mwy na'r hyn a ddarparwyd gan yr asiantaeth.”

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Sir Benfro yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Sir Benfro  – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd Darren Mutter, Pennaeth Gwasanaethau Plant Sir Benfro:

"Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol Cymru ar flaen y gad yn y datblygiadau cadarnhaol sy'n cael eu hysgogi gan Lywodraeth Cymru o dan eu hagenda 'diddymu'. Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhoi datganiad clir ynghylch sut rydym yn gwerthfawrogi plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, ac mae'n cyd-fynd yn berffaith â'r ffordd yr ydym yn edrych ar blant a darparu eu gofal yn Sir Benfro.

“Mae maethu ar gyfer awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision i ofalwyr ac i'r plant sy’n derbyn gofal, sy'n cael y cyfle i aros yn y sir lle maent yn byw, yn agosach at deulu a ffrindiau. Rydym am ehangu ein cymuned o ofalwyr maeth gofalgar a chariadus fel y gall mwy o blant Sir Benfro aros yn ein sir. Pobl a chymunedau lleol yn gofalu am blant lleol a’u cefnogi. Ymunwch â ni heddiw i ddarparu'r sylfeini i'n plant mwyaf bregus ffynnu."

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Esboniodd Andrew, a newidiodd o asiantaeth annibynnol, i Maethu Cymru Sir Benfro, yn gynharach eleni, ei daith a'r gwahaniaeth y mae wedi'i weld wrth faethu i'r awdurdod lleol.

“Dechreuon ni faethu gydag asiantaeth ond roedden ni’n teimlo nad oedden ni’n cael cefnogaeth, felly penderfynon ni symud i'n gwasanaeth maethu awdurdod lleol, Maethu Cymru Sir Benfro.

“Mae ein profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r gefnogaeth rydym wedi ei gael o ran offer, cefnogaeth cymheiriaid, ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio, darparu cyfnodau aros dros nos i’r plant gyda gofalwyr maeth eraill a chynlluniau chwarae'r haf, yn llawer mwy na'r hyn a ddarparwyd gan yr asiantaeth.

“Mae'r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw wedi setlo yn eu cymuned ac ysgolion lleol, yn gallu cael amser teuluol rheolaidd gyda'u rhieni a chynnal eu perthynas a'u cyfeillgarwch presennol ag eraill a fydd yn y pen draw yn golygu gwell canlyniad iddyn nhw."

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: https://sirbenfro.maethucymru.llyw.cymru/