English icon English
Y tu mewn i ystafell ddosbarth ysgol gynradd liw llachar

Taliadau Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer Hanner Tymor mis Mai

May Half Term for Free School Meal payments to be made

Bydd taliadau sy’n gysylltiedig â Phrydau Ysgol am Ddim i blant o deuluoedd incwm isel ar gyfer hanner tymor mis Mai yn cael eu gwneud yr wythnos nesaf.

Cafodd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer disgyblion cymwys ledled Cymru ei ymestyn yn gynharach eleni tan ddiwedd hanner tymor mis Mai.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud taliad BACS ddydd Mawrth (30 Mai) o £19.50 ar gyfer pob plentyn, yn uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gofalwyr ar gyfer y gwyliau sydd ar ddod.

Mae’r cyllid yn caniatáu £19.50 yr wythnos (£3.90 y diwrnod) ar gyfer pob person ifanc cymwys.

Mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol yn unig i’r dysgwyr hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn unol â meini prawf budd-daliadau presennol, ac nid yw’n ymestyn i’r disgyblion hynny sydd ond yn cael mynediad at y cynnig Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Mae plant sydd â lle amser llawn mewn meithrinfa, neu’r rhai sydd mewn dosbarth derbyn, ym Mlwyddyn 1 neu ym Mlwyddyn 2, yn gymwys fel mater o drefn i dderbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, ond os ydych chi’n derbyn budd-dal cymwys, mae’n bwysig eich bod chi’n parhau i wneud cais am brydau ysgol am ddim fel y gellir cael mynediad at gyllid arall.

Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro, neu o ysgol eich plentyn, neu drwy ffonio 01437 764551.