Menter Trefi Smart Sir Benfro yn lansio’n fuan
Pembrokeshire Smart Towns initiative launching soon
Mae menter wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU sy’n defnyddio data a thechnoleg i reoli canol trefi a chefnogi busnesau yn cael ei lansio yn Sir Benfro.
Mae Cyngor Sir Penfro, gan weithio gydag Owen Davies Consulting and Associates, yn gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn gwybod beth yw Trefi Smart a sut y gallant fod o fudd i gymunedau i ddod i ddigwyddiad ar-lein.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
Wedi’i ariannu gan GLlywodraeth y DU, gall y prosiect fod o ddiddordeb arbennig i fusnesau annibynnol, grwpiau busnes, Cynghorau Tref a sefydliadau lleol eraill.
Mae canol trefi eraill yng Nghymru sydd eisoes wedi’u cynnwys yn elwa ar ddeall patrymau ymwelwyr, lleihau gwastraff a symleiddio prosesau, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chreu amgylcheddau gwyrddach a glanach.
Bydd digwyddiad ar-lein hefyd ar 17 Hydref, 2pm tan 3pm.
Bydd y digwyddiadau cyntaf yn cael eu cyflwyno gan Menter Môn sydd â phrofiad o gynorthwyo trefi yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf, drwy raglen Trefi Smart Cymru, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y sesiynau’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd a manteision Trefi Smart.
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect a chael newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol am y prosiect drwy ymweld â gwefan y prosiect: smarttownspembrokeshire.wales