SmallWorldTheatre DewiSant4-2

Dyfeiswyr direidi a chlerwyr crwydrol wrth i Ffair Pererinion ddathlu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Mischief makers and meandering minstrels as Pilgrim Fayre celebrates links between Ireland and Wales

Rhannu:

Bydd Ffair Pererinion fywiog yn cael ei chynnal yn ddiweddarach y mis hwn i ddathlu llwyddiannau prosiect sy'n dathlu'r cysylltiadau hanesyddol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.

Mae'r digwyddiad ar ddydd Llun gŵyl y banc, 29 Mai 11am-6pm yn Llys yr Esgob Tyddewi, yn cynnwys rhaglen gyffrous o berfformio, caneuon, teithiau cerdded tywysedig, marchnad ganoloesol, arddangosiadau sgiliau traddodiadol, a dangosiadau ffilm.

Mae'n nodi llwyddiannau'r prosiect Ancient Connections wrth iddo ddod i ben ac yn lansio Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro, gyda dathliad o gymunedau'r gorffennol a'r presennol.

Mae'r digwyddiad yn canolbwyntio ar farchnad ganoloesol fywiog sy'n cynnwys amrywiaeth o stondinau.

Bydd yn arddangos rhai o'r nwyddau gorau sydd gan yr ardal i'w cynnig yn ogystal â bwyd a diod blasus arobryn, wedi'u gwneud o gynhwysion lleol.

Bydd yna ddyfeiswyr direidi, clerwyr crwydrol a gwerthwyr creiriau sanctaidd a pherfformiadau pop-yp annisgwyl hefyd.

Mae Small World Theatre yn falch iawn o ddychwelyd gyda phyped anferth 3m o uchder o Dewi Sant ac anghenfil môr newydd 6 metr o hyd mewn gorymdaith drwy ddinas leiaf Cymru.

Dywedodd Rowan Matthiessen, Rheolwr Prosiect Ancient Connections: “Mae'r Ffair yn mynd i fod yn wledd i'r synhwyrau a dylai fod yn ddiwrnod allan gwych ar ŵyl y banc i'r teulu cyfan. Nid yw Small World Theatre byth yn siomi wrth greu rhywbeth hwyliog ac atyniadol i bawb.”

Diolch i ddisgyblion Ysgol Penrhyn Dewi, bydd gwisgoedd lliwgar hefyd yng Ngorymdaith Pererinion yr ŵyl yn arwain gwylwyr o Sgwâr y Groes i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd Dewi Sant yn ymweld â'r cychod gwenyn enfawr a grëwyd gan yr artist Bedwyr Williams ar ei ffordd i ymuno â hwyl y Ffair.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau tywys i bererinion, dan arweiniad Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llwybr Pererin Sir Benfro Wexford-Sir Benfro; perfformiad côr cyfunol yn yr Eglwys Gadeiriol dan arweiniad côr Span Arts’ Côr Pawb; pabell arddangos sgiliau traddodiadol sy'n cael ei rhedeg gan Ganolfan Tywi; a rhaglen o ffilmiau a rhaglenni dogfen artistiaid a sgriniwyd yng nghrombil Llys yr Esgob.

Daw'r diwrnod i ben gyda chyngerdd awyr agored o gerddoriaeth hynafol o Gymru a'r gwledydd Celtaidd yn cael ei pherfformio gan gerddorion gwerin enwog Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews, a Jess Ward.

Diwedd perffaith i ddathliad godidog yn lleoliad trawiadol, hanesyddol y Palas adfeiliedig.

Mae Ancient Connections yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru a'i harwain gan Gyngor Sir Penfro, ynghyd â phartneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i bawb, ac mae manylion pellach ar gael ar wefan Ancient Connections ac Small World.