English icon English
Myfyrwyr adeiladu yn Larch Road

Myfyrwyr adeiladu ar daith o amgylch prosiect adeiladu Aberdaugleddau

Construction students tour Milford Haven building project

Mae myfyrwyr adeiladu Coleg Sir Benfro wedi cael blas ar sut beth yw bywyd yn gweithio ym maes cynnal a chadw adeiladau awdurdodau lleol.

Cafodd y myfyrwyr, sydd wedi cofrestru ar gwrs Diploma Cenedlaethol mewn Adeiladu, Dylunio a Rheoli sy'n dechrau ym mis Medi, daith o gwmpas prosiect sy’n mynd rhagddo yn Aberdaugleddau yr wythnos diwethaf.

Mae prosiect Larch Road, sy'n cael ei redeg gan dîm cynnal a chadw adeiladau Cyngor Sir Penfro, wedi cynnwys adnewyddu 11 o fflatiau yn dilyn tân yn yr ardaloedd cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith mewnol wedi cael ei wneud, gyda gwaith allanol i'w gwblhau.

Dywedodd Rhys Jones, Rheolwr Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladu, mai dyma'r tro cyntaf i'r coleg a'r awdurdod lleol gydweithio i ddangos rhywfaint o waith y Cyngor i fyfyrwyr.

"Rydym yn gobeithio, drwy ymuno â'r Coleg a'i fyfyrwyr, y gallwn wella cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn y diwydiant adeiladu lleol a rhoi syniad da i fyfyrwyr o'r math o waith uwchraddio, adnewyddu a chynnal a chadw rydym yn ei wneud ar draws ystod eang o bortffolios." meddai.

Cyn yr ymweliad â’r safle, mynychodd y myfyrwyr ddepo’r Cyngor yn Thornton lle rhoddodd swyddogion gipolwg iddynt ar reolaeth prosiect Larch Road, a'r gwaith a wnaed gan y tîm Cynnal a Chadw Adeiladu.

Dywedodd y myfyrwyr bod y diwrnod wedi bod yn ddefnyddiol a'u bod yn edrych ymlaen at ddechrau eu cwrs ym mis Medi.

Dywedodd Wendy Weber, Pennaeth yr Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Sir Benfro: "Rydym mor ddiolchgar bod Cyngor Sir Penfro wedi rhoi cyfle i'n dysgwyr yn y dyfodol brofi swyddi go iawn ar safle byw mewn amser real. Roedden nhw wrth eu boddau ac yn teimlo bod y cyfle 'wedi dod â'u dyfodol yn fyw'.

"Roedd y tîm ar y safle yn wych gyda'n pobl ifanc a gwnaethant roi cipolwg gwerthfawr ar swyddi a'r hyn maen nhw'n ei olygu, mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda thimau cynnal a chadw'r Cyngor yn y dyfodol."

Pennawd

Yn y llun yn Larch Road mae'r myfyrwyr gyda Rhys Jones, Rheolwr Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau, Richard Prout, Rheolwr y Rhaglen Cynnal a Chadw Adeiladau, a'r darlithwyr Steve Tindall a Shawnee Clewett.