Neges atgoffa am brydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd amser llawn wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol
Back to school reminder of free school meals for full time Primary pupils
Wrth i ni agosáu at ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd, dyma atgoffa unrhyw un sydd â phlant mewn addysg gynradd amser llawn bod cinio ysgol poeth ac oer ar gael am ddim bob dydd.
Cafodd y fenter Prydau Ysgol am Ddim i Bawb ei hymestyn gan Gyngor Sir Penfro fis Medi diwethaf ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ym Mlwyddyn Dau ac iau yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae yna fwydlen dreigl bythefnos o hyd sy’n cynnig bwyd poeth blasus, maethlon a chytbwys ac sy’n darparu ar gyfer unrhyw anghenion deietegol. Ymhlith y dewisiadau poblogaidd mae pasta bolognese, peli cig, a wrap cyw iâr.
Mae opsiwn brechdan neu daten bob ar gael i blant bob dydd os nad ydynt eisiau pryd bwyd poeth.
Y cyfan sydd angen i’ch plentyn ei wneud yw dewis ei bryd bwyd bob bore pan fydd yn cofrestru.
Ydych chi’n poeni am alergeddau? Gall ein tîm ymroddedig o arbenigwyr maeth ddarparu ar gyfer unrhyw blentyn sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd hefyd.
Os oes gan eich plentyn ofynion deietegol penodol neu gyfyngiadau ar ei ddeiet, cysylltwch â’n Swyddog Cyswllt Ysgolion drwy e-bostio elinor.phlip@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio 01437 776168.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Cafodd 925,531 o brydau ysgol am ddim eu mwynhau gan ddysgwyr y llynedd, ac rydym yn gobeithio gweld llawer mwy yn manteisio yn ystod y flwyddyn ysgol newydd hon. Mae tîm arlwyo Cyngor Sir Penfro yn gwneud gwaith gwych yn darparu prydau bwyd maethlon a blasus i’ch pobl ifanc.”
Nid yw’r cynllun yn disodli Prydau Bwyd am Ddim i’r dysgwyr hynny y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn cael budd-daliadau cymhwyso, sy’n eu galluogi i gael cymorth ariannol arall ar gyfer costau ysgol.
Mae hyn yn cynnwys hyd at £200 o gymorth ychwanegol ar gyfer Hanfodion Ysgol os yw eich plentyn yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim.
Cymerwch gipolwg ar y bwydlenni a gynigir ar wefan Cyngor Sir Penfro a rhowch gynnig ar giniawau am ddim!