English icon English
Mapiau gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru

Newidiadau ffiniau yn golygu etholaethau newydd ar gyfer Etholiad Senedd y DU 2024

Boundary changes mean new constituencies for 2024 UK Parliamentary Election

Ydych chi'n gwybod ym mha etholaeth y byddwch yn pleidleisio ynddi yn Etholiad Cyffredinol mis Gorffennaf? Efallai y bydd rhai ohonom eisiau gwirio eto wrth i rai newidiadau mawr i ffiniau ddod i rym.

Mae nifer o ardaloedd yn draddodiadol yn etholaeth Preseli Sir Benfro bellach wedi'u cynnwys mewn etholaeth newydd, Ceredigion Preseli.

Tra bod hen etholaeth De Sir Benfro a'r ardaloedd sy'n weddill o hen ardal Preseli, wedi'u cynnwys yn etholaeth newydd Canol a De Sir Penfro.

Dechreuodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru adolygiad o’r Etholaethau Seneddol yn 2021 a gwnaed argymhellion terfynol i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 2023.

Mae Canol a De Sir Benfro yn cynnwys Treletert, Solfach a Thyddewi i lawr i Hundleton a Dinbych-y-pysgod, gan ymestyn tua'r dwyrain i Amroth, Arberth a Llanbedr Felffre.

Mae Ceredigion  Preseli yn ymestyn i fyny heibio Aberystwyth ac mae hefyd yn cynnwys Cilgerran, Crymych, Llandudoch, Abergwaun a Llanrhian.

Ceredigion Preseli C 0 (1)

Mae manylion llawn yr adolygiad a'r mapiau etholaethol wedi'u diweddaru ar gael ar wefan y Comisiwn Ffiniau.

Bydd pleidleiswyr cofrestredig yn Canol a De Sir Benfro yn derbyn gohebiaeth etholiadol gan Gyngor Sir Penfro a bydd y rhai yn etholaeth Ceredigion Preseli yn cael gwybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion.

Swyddog Canlyniadau ( Gweithredol) Canol a De Sir Benfro yw Prif Weithredwr CSP, William Bramble a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)  Ceredigion Preseli yw Eifion Evans, Prif Weithredwr CSC.

Bydd eich cerdyn pleidleisio yn nodi pa etholaeth rydych yn pleidleisio ynddi.

Mapiau gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru