English icon English
Person yn defnyddio cyfrifiannell i gyfrifo biliau

Nodyn atgoffa ynghylch cefnogaeth a chyngor wrth i'r Gaeaf nesáu

Support and advice reminder as Winter approaches

Mae Cyngor Sir Penfro a sefydliadau partner yn atgoffa trigolion o’r gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael i'r rhai y mae costau byw yn effeithio arnynt wrth i'r Gaeaf nesáu.

Gall nifer o sefydliadau helpu i gyfeirio unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd tuag at gymorth a chyngor, ynghyd â chyngor ymarferol ar fynediad at gymorth ariannol lle bo'n gymwys.

Mae gan Gyngor Sir Penfro dudalennau gwe pwrpasol i gyfeirio at gefnogaeth i'r rhai sydd â phryderon am addysg a chostau ysgol, iechyd a llesiant, cymorth i bobl hŷn, hawlio budd-daliadau a biliau cartref ac ynni.

Mae hefyd yn cysylltu â gwybodaeth am Gredyd Pensiwn, sy'n werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd, ac sy'n datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, cymorth gyda'r Dreth Gyngor, gofal deintyddol a sbectol y GIG ac i'r rhai dros 75 oed, trwydded deledu am ddim. 

I ganfod a ydych yn gymwys cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn ar www.gov.uk/pension-credit/eligibility.  Gallwch hefyd wneud cais drwy ffonio: 0800 99 1234, mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Cyn i chi wneud cais, dylech gael manylion rhif yswiriant gwladol, yr holl incwm a chynilion ar eich cyfer chi ac unrhyw bartner. 

Rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd y Gaeaf 2024 - 2025.

Mae Hwb Cymunedol Sir Benfro yn siop un stop ar gyfer pob math o wybodaeth, o ddigwyddiadau, gweithgareddau cymunedol, gwneud cysylltiadau, i adnoddau costau byw.

Gallwch gysylltu â'r Hwb drwy ei wefan, ei gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 01437 723660.

Lansiodd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro raglen Byw yn Dda am Lai yn gynharach eleni sy'n ceisio helpu pobl i gymryd camau i wneud y mwyaf o’u hincwm a lleihau gwariant gan ddefnyddio ystod o offer a gwasanaethau. Gellir cael mynediad at hon hefyd drwy'r Hwb Cymunedol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Tessa Hodgson: "Mae nifer o adnoddau ar gael i'r rhai sy'n pryderu am filiau gwresogi ac ynni a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon neu'n chwilio am gyngor i gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro cyn gynted ag y gallant.

“Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall trigolion wirio a ydynt yn gymwys i gael credydau pensiwn a all agor drysau i gymorth ariannol pellach."