English icon English
PalmOilBlock191120

Rhybudd olew palmwydd i berchnogion cŵn

Palm oil warning to dog owners

Gofynnir i bobl sy'n ymweld ag arfordir Sir Benfro fod yn wyliadwrus o botensial olew palmwydd yn golchi i'r lan.

Mae'n dilyn marwolaeth ci tair oed y credir iddo fwyta olew palmwydd ar draeth Niwgwl.

Daeth yr adroddiad i law heddiw (dydd Iau 8 Mehefin) a deallwyd bod y ci wedi bwyta darn o olew palmwydd tywyll yr wythnos diwethaf.

Mae olew palmwydd i’w weld yn aml mewn blociau cwyraidd tywyll, melynaidd neu wyn. Nid yw'n niweidiol i fodau dynol ond fel sydd wedi’i ddangos yn y sefyllfa hon gall fod yn angheuol i anifeiliaid anwes.

Cynghorir defnyddwyr traeth i gadw cŵn ar dennyn a chadw draw oddi wrth y sylwedd.

Os gwelwch yr hyn rydych chi’n credu i fod yn olew palmwydd, cysylltwch â enquiries@pembrokeshire.gov.uk a rhoi gwybod ble y gwnaethoch chi ei weld.

Nodiadau i olygyddion

Llun o ddigwyddiad olew palmwydd blaenorol