Paratoi cyn digwyddiad IRONMAN Cymru yn Sir Benfro fis nesaf
Preparation ahead of IRONMAN Wales event in Pembrokeshire next month
Bydd miloedd o athletwyr yn dod i'r sir fis nesaf wrth iddyn nhw 'wynebu'r ddraig' yn IRONMAN Cymru Sir Benfro.
Gall trigolion ac ymwelwyr baratoi ar gyfer y prif ddigwyddiad ar 22 Medi pan fydd ffyrdd ar gau yn llwyr ac yn rhannol er mwyn sicrhau diogelwch cystadleuwyr a defnyddwyr y ffordd.
Bydd cyfyngiadau hefyd yng nghanol tref Dinbych-y-pysgod ddydd Sadwrn 21 Medi pan fydd IRONKIDS o bob rhan o'r sir yn cymryd rhan yn eu rasys rhedeg.
Mae’r amseroedd cychwyn 30 munud yn ddiweddarach eleni oherwydd y llanw, a'r nofio 2.4 milltir yn dechrau am 7.30am ar Draeth y Gogledd.
Bydd hyn yn golygu y bydd yr amser gorffen olaf tua 1am.
Ar ôl nofio, bydd y cystadleuwyr yn mynd ar daith feicio 112 milltir cyn gorffen drwy redeg 26.2 o filltiroedd.
Mae gwybodaeth lawn yn nodi pa ffyrdd fydd ar gau a’r llwybrau amgen sydd ar gael ar draws y cwrs ar gael ar wefan IRONMAN (yn agor mewn ffenest newydd) i helpu trigolion i gynllunio eu taith cyn y digwyddiad.
Bydd yr A40 a'r A477 yn parhau i fod ar agor ac ni fydd unrhyw effaith arnynt i hwyluso mynediad i'r dwyrain a'r gorllewin drwy gydol y digwyddiad.
Bydd y gwasanaethau brys yn cynnal mynediad llawn.
Gellir lawrlwytho'r map cau cwrs beic (yn agor mewn ffenestr newydd) a map cau cwrs rhedeg hefyd o ironman.com
Mae IRONMAN Cymru yn un o’r pum gorau yn fyd-eang o ran dewis yr athletwyr ac mae wedi cael cadarnhad y bydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn 2025 - cadwch lygad am sut i wneud cais ar ôl y digwyddiad eleni.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Wrth i'r cyffro ar gyfer IRONMAN eleni gynyddu, mae'n bwysig i unrhyw un sy'n credu y gallai cau ffyrdd effeithio arnynt gynllunio ymlaen llaw a gwirio'r mapiau cynhwysfawr sydd ar gael ar-lein.
“Mae IRONMAN Cymru yn un o’r pum gorau yn fyd-eang o ran dewis yr athletwyr ac mae'n gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gan Sir Benfro i'w gynnig, ond rydym hefyd am sicrhau bod unrhyw darfu ar ein trigolion yn cael ei leihau lle bynnag y bo modd."
Bydd bws gwennol parcio a theithio yn rhedeg ddydd Sadwrn a dydd Sul o Faes Awyr Caeriw a Saundersfoot.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fynediad yn ystod IRONMAN Cymru, cysylltwch â wales@ironmanroadaccess.com neu ffoniwch 03330 11 66 00 a rhowch y manylion canlynol:
- Enw
- Rhif Ffôn
- Cod Post Cychwyn y Daith
- Cod Post Diwedd y Daith
- Amser Gadael
- Manylion yr Ymholiad
Sylwch na fydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei fonitro ar benwythnos y digwyddiad, felly cynlluniwch ymlaen llaw.