Parc Cenedlaethol yn cymeradwyo adeiladu cartrefi Cyngor newydd yn Ninbych-y-pysgod
National Park approval for new Council built homes in Tenby
Mae'r cais materion cynllunio manwl ar gyfer datblygiad tai Brynhir yn Ninbych-y-pysgod wedi cael ei gymeradwyo'n unfrydol gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Derbyniwyd ceisiadau cyflwyno tendr ar gyfer datblygiad y safle dros yr haf ac maent yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd cytundeb y Gwasanaeth Cyn-Adeiladu yn cael ei ddyfarnu yn yr hydref.
Mae'r cynlluniau cymeradwy yn cynnwys 125 o gartrefi newydd.
Bydd gofyn i'r contractwr llwyddiannus wneud y gwaith terfynol ar ddylunio, profi'r farchnad, ceisio cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ynghyd â materion eraill cyn ymrwymo i gontract adeiladu gyda'r cynllun i ddechrau ar y safle ddiwedd Gwanwyn 2025.
Y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai: "O ystyried y lefel uchel o alw am dai cymdeithasol ledled Sir Benfro, ac yn arbennig yn ardal Dinbych-y-pysgod, mae hwn yn gynllun pwysig yn ein rhaglen ddatblygu.
“Bydd y safle'n darparu cartrefi o ansawdd uchel ar gyfer yr ardal leol, sy'n cynnwys 93 o gartrefi a fydd yn cael eu cadw gan y cyngor. Bydd y gweddill yn gymysgedd o berchnogaeth marchnad agored a rhanberchnogaeth.
“Bydd polisi gosod lleol ar waith ar gyfer dyrannu eiddo'r cyngor gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i'r rhai sydd â chysylltiad â Dinbych-y-pysgod a'r pentrefi cyfagos.
"Rwy'n falch bod pwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol wedi cefnogi'r cais yn unfrydol."