Partneriaeth ynni solar yn goleuo pythefnos ynni cymunedol
Solar power partnership lighting up community energy fortnight
Yn ddiweddar, mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro ac elusen ynni cymunedol wedi helpu dau safle i osod paneli solar i leihau costau ac allyriadau carbon.
Yn ystod pythefnos ynni cymunedol, sy’n cael ei gynnal tan 14 Gorffennaf, mae tîm Sir Benfro Werdd yn tynnu sylw at ail gam y gwaith gydag Egni, sefydliad ynni cymunedol sy’n gosod systemau Paneli Solar ffotofoltaig ar ben y to.
Mae Egni yn talu’r costau gosod ac yna mae’n gwerthu’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu i berchennog yr adeilad am ddisgownt, gan ddefnyddio’r holl elw sy’n cael ei gynhyrchu i ariannu prosiectau eraill a rhaglenni addysg amgylcheddol.
Yn gynnar yn 2023 cafodd y contract ei ddyfarnu i Egni osod systemau ar tua 20 o ysgolion a chanolfannau hamdden ar draws y Sir a bydd yn rheoli a chynnal y systemau am 20 mlynedd.
Yr amcangyfrif yw y bydd y paneli solar yn atal 200 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn rhag cael eu hallyrru a dylent arbed £180,000 y flwyddyn mewn costau ynni i’r ysgolion a’r canolfannau hamdden.
Yn yr ail gam mae Canolfan Hamdden Abergwaun wedi ychwanegu system 170kW at ei darpariaeth 50kW bresennol a bydd yr ynni’n cael ei werthu i’r adeilad ar gyfradd is. Gyda’r systemau cyfun yn cynhyrchu tua 187,000 kW y flwyddyn, bydd bron i 40 tunnell o CO2 yn cael ei wrthbwyso.
Yn ystod rhan gyntaf y mis, gwnaeth y paneli solar ddarparu mwy na hanner ynni trydanol y Ganolfan ac mae dibyniaeth ar y grid yn ystod y dydd bron yn sero yn ystod yr haf.
Hefyd yn rhoi hwb i’w system paneli solar, mae Ysgol Tafarnspite, lle mae system 27kW wedi’i gosod, gyda thrydan am ddisgownt yn lleihau dibyniaeth ar y grid trydanol ac yn gwrthbwyso tua phum tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn.
Mae’r ysgol yn un o nifer sydd hefyd yn elwa ar raglen addysg Egni, ochr yn ochr ag Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro.
Mae Gweithdai Egni yn herio disgyblion i wneud y cysylltiad rhwng ynni a newid hinsawdd, a’r ysgol i leihau eu hynni drwy ymgyrchu dros newid ymddygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod y Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Dyma’r ddau safle diweddaraf i elwa ar y cynllun arloesol hwn sy’n helpu’r Cyngor a’i adeiladau i wneud arbedion carbon, yn ogystal ag arbed arian, heb gostau cyfalaf."
Dywedodd Jenny Carlisle, Rheolwr Datblygu Egni: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Cyngor a phobl ifanc yn ysgolion Sir Benfro. Mae’n enghraifft wych o gydweithredu. Mae angen i bob un ohonom ni weithio gyda’n gilydd i daclo newid hinsawdd a chadw arian yn economi Cymru."