English icon English
Disgybl Ysgol Caer Elen a gofalwr ifanc Nyfain gydag Alison Hammond a Holly Willoby ar soffa This Morning

Gofalydd ifanc o Sir Benfro yn sôn am ei phrofiad ar raglen deledu

Pembrokeshire young carer highlights experience on national television

Gwnaeth disgybl o Ysgol Caer Elen a'i theulu sôn am brofiad gofalyddion ifanc ar raglen deledu cenedlaethol fis yma.

Teithiodd Nyfain, ei mam Kelly a'i chwaer Lowis, i Lundain i siarad am sut beth yw bod yn ofalydd ifanc ar This Morning ar ITV.

Roedd hi'n anrhydedd i Nyfain a’i theulu gael eu gofyn gan Action for Children i gynrychioli gofalyddion ifanc o bob cwr o'r DU.

Rhannodd y soffa enwog gyda Holly Willoughby ac Alison Hammond, ac yn ystod y cyfweliad esboniodd Nyfain sut mae hi'n ymdopi â’i chyfrifoldebau fel gofalydd ifanc yn ddyddiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar wyliau'r haf. 

Dywedodd Mr Dafydd Hughes, Pennaeth Ysgol Caer Elen: "Mae gennym nifer o ddisgyblion sy'n cael eu cydnabod yn ofalyddion ifanc yn Ysgol Caer Elen. 

"Rwyf mor falch bod Nyfain a'i theulu wedi gallu sicrhau ein bod ni, a'r cyhoedd yn ehangach, yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn y mae bod yn ofalydd ifanc yn ei olygu."

Dywedodd y Cynghorydd Mike James, Hyrwyddwr Gofalyddion: "Nid oes ffiniau i fod yn ofalydd ac mae gofalyddion ifanc yn achubiaeth i lawer o deuluoedd.

"Mae mor braf clywed am ofalydd ifanc yn cael cydnabyddiaeth ar deledu cenedlaethol. Da iawn Nyfain."

Mae gwybodaeth i ofalyddion sy'n oedolion a rhai iau ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro ac ar hyn o bryd mae arolwg yn canolbwyntio ar seibiannau byr a seibiant i ofalyddion ar borth Dweud Eich Dweud.